Bydd Cig Oen Cymru’n cael ei arddangos gan Hybu Cig Cymru mewn sioe fasnach flaenllaw yn y Dwyrain Canol.

Yn ogystal, byddan nhw’n cynnal dathliad arbennig o’r cynnyrch yn llysgenhadaeth Prydain yn Dubai.

Bydd allforwyr o Gymru’n ymuno â nhw i arddangos Cig Oen Cymru yn Gulfood yng Nghanolfan Fasnach y Byd rhwng Chwefror 19-23.

Mae marchnad y Dwyrain Canol yn farchnad allforio bwysig sy’n tyfu ar gyfer cig coch Cymru, gydag allforion yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Datblygu enw da Cig Oen Cymru

“Mae Gulfood yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr bwyd a diod byd-eang,” meddai Gareth Evans, Swyddog Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru.

“Bydd prynwyr o dros 120 o wledydd yn bresennol, ac mae’n gyfle gwych i ddatblygu enw da Cig Oen Cymru ac i gysylltu â chwsmeriaid newydd ar draws y rhanbarth.”

Yn ogystal â mynychu’r sioe fasnach, mae Hybu Cig Cymru wedi trefnu digwyddiad ‘Dathlu Cig Oen Cymru’ yn llysgenhadaeth Prydain yn Dubai.

Bydd Oliver Christian, Comisiynydd Masnach a Chonswl Cyffredinol Ei Fawrhydi, yn bresennol yn y digwyddiad, ynghyd â phobol ddylanwadol y sector lletygarwch ac arlwyo o Dubai a’r Dwyrain Canol.

Bwydlen

Cafodd bwydlen tri-chwrs ‘Dathlu Cig Oen Cymru’ ei chreu gan Russell Impiazzi, cogydd gweithredol blaenllaw o Dubai, ac mae’n cynnwys Ysgwydd Cig Oen Cymru PGI Olosgedig a Lwyn Cig Oen Cymru PGI wedi’i Rhostio gyda Pherlysiau.

Mae’r fwydlen hefyd yn cynnwys detholiad o gynnyrch bwyd a diod Cymreig adnabyddus arall, gan gynnwys Dŵr Tŷ Nant, Halen Môn, Caws Eryri, a Wisgi Penderyn.

Yn ogystal, bydd cyfle i glywed anerchiad gan gynrychiolydd o Hybu Cig Cymru, fydd yn egluro tarddiad a hanes Cig Oen Cymru, a sut mae’n hyrwyddo dulliau ffermio cynaliadwy Cymru.

“Bydd y digwyddiad Llysgenhadaeth hwn yn galluogi Hybu Cig Cymru i gysylltu â phrynwyr allweddol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar draws y rhanbarth a rhoi gwir flas iddyn nhw o’r hyn sy’n gwneud Cig Oen Cymru PGI mor sbesial,” meddai Medi Jones-Jackson, Swyddog Digwyddiadau Hybu Cig Cymru.