Mae’r newyddion bod safle Wafer Fab Casnewydd wedi’i gymeradwyo wedi cael ei groesawu gan Aelodau’r Senedd.

Dyma safle meicrosglodion mwya’r Deyrnas Unedig, ac mae pryniant gwerth £144m wedi’i gwblhau gyda’r perchnogion Americanaidd newydd sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi £1bn i ehangu’r safle.

Cafodd y cyfleuster ei roi ar werth y llynedd, ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyfarnu ar sail budd cenedlaethol a diogelwch y dylai’r cwmni ddod allan o berchnogaeth Tsieineaidd.

Roedd y ffatri yn eiddo i’r cwmni technoleg o Amsterdam, Nexperia, sy’n eiddo’n gyfan gwbl i’r cwmni Wingtech sydd wedi’u cofrestru yn Tsieina a Shanghai.

Wrth ymateb i’r pryniant, dywed Natasha Asghar, llefarydd technoleg y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn “newyddion i’w groesawu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig”.

Dywed y bydd y pryniant yn diogelu cannoedd o swyddi yng Nghymru.

“Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cymryd camau cyflym a phendant yma i ddiogelu buddiannau strategol Prydeinig tra hefyd yn sicrhau gwerthiant y cwmni, gan ddiogelu diwydiant hollbwysig,” meddai.

“Rwy’n gobeithio bod y datblygiad diweddaraf hwn yn y broses gaffael yn helpu safle Wafer Fab, nid yn unig i oroesi ond hefyd i ffynnu ar lwyfan lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.”

“Llusgo’r bennod allan”

Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, hefyd wedi ei ddisgrifio fel “newyddion gwych i bawb”.

“Nid dim ond hwb i’r gweithwyr sy’n gweithio ar y safle ar hyn o bryd yw hyn, ond mae hefyd yn hwb i’r rhai fydd yn dod i weithio ar y safle yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod nawr bod dyfodol Newport Wafer Fab yn cael ei sicrhau a bod modd i’r buddsoddiad a addawyd ddechrau,” meddai.

“Yna wrth gwrs mae’r gadwyn gyflenwi helaeth yn y clwstwr lled-ddargludyddion sy’n dibynnu ar Newport Wafer Fab i fod yn angor i lawer mwy o swyddi a chynhyrchu incwm ar draws de ein gwlad.”

Ychwanega ei fod yn newyddion da, nid yn unig i Gasnewydd ond i Gymru gyfan.

Ond beirniadodd yr amser mae wedi’i gymryd i gymeradwyo’r fargen.

“O ystyried bod Vishay yn eiddo i America, dylai hyn fod wedi bod yn broses gaffael syml a chyflym,” meddai.

“Gallai’r pwerau hynny fod yn San Steffan fod wedi rhoi staff Newport Wafer Fab allan o’u trallod ac o ystyried y fargen hon y golau gwyrdd cyn y Nadolig yn hytrach na llusgo’r bennod hon allan.”

Dywed y dylai’r cyfrifoldeb i gymeradwyo cytundebau fel hyn fod yn nwylo Cymru ac nid San Steffan.

“Gallai anallu San Steffan – yr ydym wedi gweld llawer ohono yn ystod y blynyddoedd diwethaf – fod wedi difetha’r fargen gyfan, gan arwain at ganlyniadau difrifol i’r economi leol a bywoliaeth cannoedd o bobl sy’n byw yng Nghymru,” meddai.