Siop elusen Hosbis Sant Cyndeyrn yn nhref Dinbych ddaeth yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi eleni.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Fenter Iaith Sir Ddinbych bob blwyddyn gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth am iaith a diwylliant Cymru, hyrwyddo busnesau’r dref a “chodi calon yn ystod yr amser heriol hwn.”

Cafodd Hosbis Sant Cyndeyrn yn Llanelwy ei sefydlu yn 1995 ac mae’n rhoi gofal lliniarol arbenigol i gleifion yn Sir Ddinbych, Gorllewin Sir y Fflint a Dwyrain Conwy.

Elusen ydy’r hosbis sy’n dibynnu ar roddion a chyfraniadau gan y gymuned.

Mae siop wedi bod yn Ninbych ers bron i 20 mlynedd a bob blwyddyn mae’r gwirfoddolwyr yn creu ffenest arbennig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Mae wyth siop elusen ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Sir Conwy.