Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n cynnal eu cynhadledd wanwyn yng Nghaerdydd dros y penwythnos (Mawrth 2 a 3).

Mae disgwyl y bydd aelodau’r blaid yn trafod cynigion gofal plant, cyllid llywodraeth leol, a darparu Bargen Deg i Gymru, ymhlith pynciau eraill.

Bydd y gynhadledd yn cael ei hagor gan y Cynghorydd Bablin Molik, Maer Caerdydd.

Hi yw’r fenyw gyntaf o liw i’w phenodi’n Arglwydd Faer prifddinas Cymru.

Mae disgwyl y bydd Jane Dodds yn manteisio ar ei haraith i osod gweledigaeth y blaid ar gyfer Cymru.

Beirniadu

Bydd hi hefyd yn rhannu ei beirniadaeth o lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn sgil eu methiannau, yn enwedig o ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a datrys problemau economaidd.

“Ar hyn o bryd rydym yn cael ein hunain mewn amgylchiadau anodd, wedi’n hamgylchynu gan ansicrwydd economaidd ac ansefydlogrwydd byd-eang sydd wedi cymylu ein dyfodol,” meddai Jane Dodds.

“Mae ein gwae economaidd a’n hamddifadedd presennol o wasanaethau cyhoeddus wedi’u hysgogi gan ddifaterwch llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wrth redeg ein gwlad i’r ddaear.”

Dywed nad “ydym erioed o’r blaen nac ers hynny wedi wynebu llywodraeth sydd mor allan o gysylltiad ag anghenion ei phobol”.

‘Colli golwg ar eu hegwyddorion’

Mae hi hefyd yn cyhuddo Llafur o fod “yn rhy brysur yn symud y gôl” i wneud unrhyw newidiadau sylweddol yng Nghymru.

“Os ydych chi am gael gwared ar y Ceidwadwyr, peidiwch â phleidleisio dros Lafur,” meddai.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi wynebu beirniadaeth gan yr arweinydd, sy’n dweud bod eu “hobsesiwn dros annibyniaeth” yn golygu eu bod nhw wedi colli golwg ar eu hegwyddorion.

“Maen nhw wedi dewis, yn lle hynny, i gyfaddawdu trwy eu Cytundeb Cydweithio â Llafur Cymru, ar rai o’r addewidion maen nhw wedi’u gwneud yn flaenorol, sy’n cynnwys rhoi’r gorau i system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

Dywed fod “pob rheswm i fod yn obeithiol” am ddyfodol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae hi’n addo y bydd ei phlaid yn chwarae eu rhan wrth “gicio’r Torïaid, nid yn unig allan o Rif 10, ond hefyd allan o Gymru am byth”.