Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae’r ddadl ynghylch a ddylai diwrnod cenedlaethol nawddsant Cymru fod yn ŵyl banc wedi codi’i phen unwaith eto.

Mae’r ddadl yn un flynyddol, ac mae Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn galw am yr un hawl â’r Alban a Gogledd Iwerddon o ran gwyliau banc.

Mae e wedi ysgrifennu at Kemi Badenoch, Ysgrifennydd Busnes a Masnach San Steffan, gan ddweud ei bod yn “hen bryd i bobol Cymru fwynhau’r hyn sydd gan rai cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig eisoes – gŵyl y banc ar ddiwrnod eu nawddsant”.

Yn yr Alban, mae Dydd San Andreas (Tachwedd 30) eisoes yn ŵyl banc.

Mae gan Ogledd Iwerddon ddwy ŵyl banc ychwanegol hefyd – un ar Ddydd San Padrig ar Fawrth 17, a’r llall ar gyfer Brwydr y Boyne ar Orffennaf 12.

Ar hyn o bryd, Cymru a Lloegr sydd â’r nifer lleiaf o wyliau banc yng ngorllewin Ewrop.

“Mae ein wyth gŵyl gyhoeddus yn bitw o gymharu â’r 14 gaiff eu mwynhau gan bobol Malta,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Hyd yn oed os ydych yn ein cymharu â’r Alban a Gogledd Iwerddon, rydym ar ein colled ar un neu ddau o wyliau banc ychwanegol.”

Mae’n tynnu sylw at y ffaith fod cannoedd o filoedd o bobol yn gweithio yng Nghymru ar Ddydd Gŵyl Dewi – diwrnod mae e’n credu ddylai fod yn rhydd i bobol “ymlacio yn ogystal â dathlu eu cenedl, eu hanes a’u diwylliant unigryw”.

Mae enghreifftiau diweddar o greu gwyliau banc yn San Steffan ar achlysuron arbennig yn cynnwys Coroni’r Brenin Charles.

Yn ôl Peredur Owen Griffiths, does dim yn eu rhwystro nhw rhag creu un ychwanegol ar gyfer y Cymry.

“Nid yw cydraddoldeb ag Albanwyr a phobol Gogledd Iwerddon yn llawer i ofyn amdano, felly yng ngeiriau Dewi Sant, rwy’n eich annog i “wneud y pethau bychain” a rhoi’r Ŵyl Banc ychwanegol honno inni,” meddai.

Y gwyliau “wedi’u hen sefydlu a’u derbyn”

Mae’r ddadl hon wedi’i chodi eisoes gan Gwnsler Cyffredinol Cymru.

Pan gafodd gŵyl y banc ei sefydlu ar gyfer y Coroni, dywedodd Mick Antoniw fod yna “gyfle i ddefnyddio’r foment yma i gymryd rhan a chefnogi gwaith ein grwpiau cymunedol lleol ac elusennau ar adeg pan mae cymaint o angen am waith a chefnogaeth o’r fath”.

“Efallai yn y dyfodol agos y caiff yr ŵyl ychwanegol hon ei gwneud yn ŵyl ffurfiol reolaidd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi,” meddai.

Fodd bynnag, wrth ymateb i ddeiseb yn galw am ei gwneud yn ŵyl gyhoeddus yn 2022, dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig nad oedd ganddyn nhw “unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y trefniadau sefydledig a derbyniol ar gyfer gwyliau banc yng Nghymru”.

Dywedodd San Steffan hefyd fod yna “gefndir o wahanol hanesion” tu ôl i wyliau’r Alban a Gogledd Iwerddon.

“Mae’r penderfyniadau i greu gwyliau banc ar gyfer Dydd Sant Andrew, a Dydd Sant Padrig wedi’u datblygu yn erbyn cefndir o wahanol hanesion, systemau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a chyfreithiol,” medden nhw.

Dywedon nhw fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “yn derbyn ceisiadau yn rheolaidd am wyliau banc a chyhoeddus ychwanegol i ddathlu amrywiaeth o achlysuron”.

“Fodd bynnag, mae’r patrwm presennol o wyliau banc wedi’i hen sefydlu a’i dderbyn.”

Rhowch eich barn

Ydych chi’n cytuno â sylwadau Peredur Owen Griffiths, neu ydych chi’n meddwl bod rhesymeg Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deg?

Pleidleisiwch a rhowch eich barn isod: