Mae hwb cymunedol Y Dref Werdd yn Ffestiniog yn dweud eu bod nhw’n llenwi’r bwlch mewn gwasanaethau cymorth, ac yn cynnig arweiniad a chefnogaeth i bobol sy’n wynebu heriau neu broblemau yn yr hinsawdd sydd ohoni ar hyn o bryd.
Mae’n un o nifer o Hybiau Cymunedol Gwynedd, sy’n helpu pobol i gael mynediad at gymorth hanfodol, yn enwedig yn wyneb yr heriau economaidd a chymdeithasol presennol.
Cymunedau eu hunain sy’n cynnal yr hybiau, gan ddarparu pob math o gymorth drwy ddod â gwasanaethau, grwpiau ac asiantaethau lleol ynghyd i lywio’u hymateb lleol i anghenion eu hardal.
Er enghraifft, mae’r hybiau yn helpu pobol i gael mynediad at fudd-daliadau a chyngor ariannol, cymorth gyda materion trafnidiaeth, a chymorth i bobol sydd wedi’u hynysu oherwydd eu hamgylchiadau personol eu hunain.
Y Dref Werdd
Mae’r Dref Werdd wrth galon cymuned Ffestiniog, ac yn helpu oddeutu 300 o bobol bob mis.
Mae eu swyddfa ar agor dri diwrnod yr wythnos, gan gynnig help gyda phob math o broblemau, gan gynnwys:
- llenwi ffurflen i gael Bathodyn Glas ar eu cerbyd neu i gael pàs bws
- biliau ynni a chymorth i gynhesu’r cartref
- ceisio prydau bwyd maethlon yn wyneb costau bwyd cynyddol, rhwystrau o ran trafnidiaeth i fynd i siopa, a diffyg siopau
Yn ogystal â chymorth gyda materion ymarferol ac ariannol, mae hybiau fel y Dref Werdd yn cynnig achubiaeth emosiynol, gan roi cyfleodd i bobol dreulio amser yn yr awyr agored, dysgu sgiliau newydd a chyfrannu at y gymuned.
Mae golwg360 wedi bod yn siarad â Gwydion ap Wynn am y gwaith mae’r Dref Werdd yn ei wneud.
Dygymod â heriau yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet sy’n arwain ar faterion yn ymwneud â threchu tlodi, mae dygymod â heriau’n flaenoriaeth iddyn nhw.
“Mae’n destun balchder ein bod yn gweithio efo’r Hybiau Cymunedol ym mhob rhan o’r sir,” meddai.
“Mae’r hybiau yn cael eu rhedeg gan y cymunedau eu hunain, ac mae’r gwaith amhrisiadwy mae’n nhw’n ei wneud yn adlewyrchu anghenion penodol yr ardal honno.
“Mae’n wych hefyd clywed am y cydweithio sy’n digwydd rhwng yr hybiau a gwasanaethau eraill er mwyn diwallu anghenion pobol Gwynedd.
“Byddwn yn annog unrhyw un i droi mewn i’w Hwb lleol os ydyn nhw’n poeni am eu sefyllfa bersonol neu rywun mae’n nhw’n eu hadnabod.
“Efallai bod yr argyfwng costau byw yn effeithio arnoch, ac rydych yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, neu efallai eich bod yn cael trafferth cael yr help sydd ar gael am eich bod yn ei chael yn anodd llenwi ffurflenni neu heb gysylltiad dibynadwy i’r we.
“Beth bynnag sy’n eich rhwystro rhag datrys eich problemau, mae help ar gael yn eich hwb cymunedol lleol.”
Gwirfoddoli
Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy’r rhwydwaith o hybiau hefyd sydd, yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys, yn werthfawr i’r unigolyn a’r gymuned.
“Mae gwirfoddoli yn rhywbeth buddiol iawn, nid yn unig ydych yn helpu rhywun arall ond rydych hefyd yn adeiladu ar eich sgiliau eich hun ac mae’n gyfle i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd,” meddai.
“Os ydych yn hoffi helpu eraill ac yn meddwl gallwch gyfrannu, neu os ydych yn chwilio am brofiad gwaith, byddwn yn eich annog i gysylltu â’ch Hwb Cymunedol lleol i weld pa gyfleoedd sydd ar gael.
“Mae gwybodaeth am y Hybiau Cymunedol ar wefan Cyngor Gwynedd, yn ogystal â fideo byr sy’n rhoi blas o waith y Dref Werdd.
“Mi fyddwn yn annog pawb i’w wylio; mae straeon Rhian, y Gweithiwr Llesiant, a Charlotte, y gwirfoddolwr, a sut mae’r Dref Werdd yn cyfrannu at fywyd Blaenau Ffestiniog wir yn ysbrydoliaeth.”