Fe fydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio heddiw ar Gyllideb Ddrafft Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dyma fydd y gyllideb olaf i Gymru cyn Etholiad y Cynulliad ym mis Mai.
Fel rhan o’r gyllideb, mae disgwyl i’r gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gynyddu £278m. Mae hyn yn gynnydd o 4%, sy’n golygu y bydd bron i hanner o holl wariant Llywodraeth Cymru (48%) yn cael ei fuddsoddi ym maes iechyd.
Mae disgwyl i’r awdurdodau lleol wynebu toriad o 2% yn sgil y gyllideb, ac mae trafodaethau wedi eu cynnal am effaith y toriadau ar awdurdodau lleol gwledig.
Mae disgwyl i’r gwariant ar addysg a sgiliau godi o 1%, ond mae disgwyl toriadau i faes addysg uwch ac i’r corff sy’n ariannu prifysgolion, sef Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mewn cyhoeddiad cyn y ddadl heddiw, fe fydd y Gweinidog Cyllid a Busnes, Jane Hutt, yn cyhoeddi buddsoddiad gwerth £120m i brosiectau seilwaith economaidd a chymdeithasol ar hyd a lled Cymru yn ystod y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn creu tua 2,000 o swyddi.
‘Cyffes o fethiant’
Mae disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol gymeradwyo’r gyllideb, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi eu gwrthwynebiad.
Fe ddywedodd Nick Ramsay, AC a Llefarydd Cyllid y Ceidwadwyr Cymreig: “Yn syml, nid yw cyllideb drafft Llafur yn llwyddo i fynd i’r afael ag anghenion pobol Cymru.
“Yn y blynyddoedd diweddar, mae Gweinidogion Llafur wedi newynu ein gwasanaeth iechyd rhag biliwn o bunnau – ac mae unrhyw gyllid tameidiog cyn yr etholiad yn gyffes o fethiant i’r penderfyniadau blaenorol – yn syml, mae’n rhy fach ac yn rhy hwyr i nifer o gymunedau ar draws Cymru.
“Yn y cyfamser, mae Llafur yn bwrw ymlaen â mwy o doriadau i’r Gyllideb Bwyd ac Amaethyddiaeth, ond yn cynyddu’r gwariant arnyn nhw eu hunain drwy wasanaethau canolog a gweinyddiaeth. Mae hwn yn ergyd arall i’n cymunedau gwledig.”
Ychwanegodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Tra bo pleidiau eraill wedi ymrwymo i gytundebau cysurus gyda’r Blaid Lafur blinedig a hunanfodlon, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthod cefnogi cytundebau trychinebus i’r Gwasanaeth Iechyd, a’r cynigion pitw i’n cymunedau gwledig.”
‘Heb ystyried y goblygiadau’
Ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r gyllideb heddiw, ac fe ddywedodd Simon Thomas AC nad yw Llafur wedi “ystyried goblygiadau’r toriadau o ddifrif.”
Fe ddywedodd fod y toriadau i’r gyllideb Addysg Uwch, awdurdodau lleol a’r “diffyg buddsoddiad yn holl rannau o Gymru” yn golygu na allai’r blaid roi eu cefnogaeth i’r gyllideb.
“Mae’r toriadau i gyllidebau prifysgolion Cymru yn achos o bryder, ond mae’n fwy pryderus nad yw Llafur wedi cynnal asesiad o’r goblygiadau ar y sector wrth dorri 32% o gyllidebau’r prifysgolion.”
Fe ddywedodd y gallai hyn roi cannoedd o swyddi ar draws Cymru yn y fantol.
“Mae’r gyllideb i’r Awdurdodau Lleol yn cynnig cytundeb annheg i gynghorau mewn ardaloedd gwledig,” ychwanegodd gan gynnig y byddai grant Sefydlogi Gwledig yn cydbwyso hynny.
“Rwyf hefyd yn pryderu y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi yn holl rannau o Gymru, ond yn hytrach maen nhw’n parhau i ariannu gwaith paratoadol ar gyfer M4 newydd lle mae opsiynau gwell ar gael.”