Mae uwch gynghorwyr wedi cymerwydo enw swyddogol ar gyfer ysgol newydd tair i unarddeg oed werth £16.3m i 240 o ddisgyblion ger Aberaeron.

Fis Mai y llynedd, cefnogodd Pwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion gais i adeiladu’r ysgol newydd ar safle tir glas yn Nyffryn Aeron, Felinfach, ar yr heol rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Caiff 70% o’r ysgol, sy’n cael ei hadeiladu gan Wynne Construction, ei hariannu drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ysgol newydd yn tynnu tair ysgol gynradd – Ciliau Parc, Dihewyd a Felinfach – yr Ysgol Feithrin a Chanolfan Drochi Felinfach ynghyd.

Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 20), clywodd aelodau fod rhestr fer o enwau posib ar gyfer yr ysgol wedi’i chylchredeg gan y corff llywodraethu cysgodol, gydag Ysgol Dyffryn Aeron yn cael ei ddewis, a chafodd hynny ei gymeradwyo’n swyddogol yn y cyfarfod.

‘Buddsoddi mewn addysg mewn ardal wledig’

Cafodd seremoni ei chynnal i nodi dechrau’r gwaith y llynedd, gyda chynghorwyr, swyddogion, disgyblion yr ysgolion lleol a chontractwyr yn bresennol.

“Mae hwn yn brosiect cyffrous i bobol yn Nyffryn Aeron, ac yn gyfle gwych i fuddsoddi mewn addysg mewn ardal wledig,” meddai’r Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd y Cyngor.

“Edrychwn ymlaen nawr at barhau i gydweithio â’r contractwyr, Wynne Construction, i sicrhau cyfleusterau o’r radd flaenaf i ddisgyblion yn yr ardal.”

Yn eu datganiad dylunio a hygyrchedd, dywed yr asiant TACP Architects Ltd, y bydd y datblygiad “yn codi safon y cyfleusterau dysgu sydd ar gael yn Nyffryn Aeron i safonau’r unfed ganrif ar hugain”.

“Bydd hefyd yn cyflwyno ysgol sy’n gweithredu carbon sero-net, sy’n cyfrannu at ymdrechion Cyngor Ceredigion i gyflwyno awdurdod carbon-sero erbyn 2030.”