Storm Imogen yw’r ddiweddara’ i daro Cymru a rhannau eraill o Brydain gyda gwyntoedd yn hyrddio bron i 100mya, gan achosi oedi i deithwyr a thorri cyflenwad trydan i gannoedd o gartrefi.
Yn ôl Western Power, mae 330 o gartrefi heb drydan yng Nghymru y bore yma, a hynny mewn 9 lleoliad a digwyddiad gwahanol.
Mae 133 o gartrefi heb drydan ym Mro Morgannwg, 72 o gartrefi heb drydan yn sir Gaerfyrddin, 50 yng Nghaerdydd a 75 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae disgwyl oedi, gohiriadau a chyfyngiadau cyflymder ar wasanaethau trenau yn ne Cymru drwy gydol y bore a’r prynhawn oherwydd gwyntoedd cryfion a thywydd gwael.
Mae coeden wedi disgyn ger Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n golygu oedi o hyd at 45 munud i drenau Arriva Cymru sy’n teithio rhwng Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.
Caewyd Pont Hafren tua’r dwyrain y bore yma hefyd, gyda chyfyngiadau cyflymder tua’r gorllewin oherwydd gwyntoedd cryfion.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhyddhau 16 rhybudd coch am lifogydd i Gymru, a 35 rhybudd oren i fod yn barod am lifogydd i rannau eraill o Gymru. Mae disgwyl i arfordiroedd Cymru a rhannau o’r de gael eu heffeithio’n bennaf.
Mae maes awyr Gatwick wedi rhybuddio teithwyr i fod yn barod am oedi hefyd oherwydd tywydd gwael.
Mae disgwyl i Storm Imogen deithio tua’r dwyrain yn ystod y dydd, ac ar hyd arfordir y de a gallai hyn effeithio ar wasanaethau fferi o Borthladd Dover.