Bydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2024 yn ddathliad o ymgyrch arwrol Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24, ac yn datgan yr angen i barhau â’r alwad am heddwch ganrif yn ddiweddarach.

Union ganrif yn ôl i heddiw – ar Chwefror 19, 1924 – cafodd cist Deiseb Heddwch menywod Cymru ei hagor, gyda’i 390,296 o lofnodion, gerbron 600 o fenywod yn y Biltmore Hotel yn Efrog Newydd.

Roedd y ddeiseb yn apelio am weld cydweithredu dros heddwch yn y byd, ac mae ei stori wedi ysbrydoli’r Urdd i annog criw o ferched ifanc i ddod at ei gilydd i lunio’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni.

Cyfarwyddwr Creadigol y Neges Heddwch eleni yw’r bardd a’r gantores Casi Wyn.

Bydd hi’n llunio’r geiriau yn dilyn gweithdai yng nghwmni merched ifainc sy’n fyfyrwyr ar gyrsiau ESOL (dysgwyr Saesneg fel ail iaith) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, ynghyd â rhai o staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr yr Urdd.

Bydd Neges Heddwch 2024 yn cael ei rhannu gyda’r byd, yn ôl yr arfer, ym mis Mai.

Talu teyrnged i genhedlaeth o ferched Cymru

“Mae’r Urdd yn awyddus i dalu teyrnged i’r genhedlaeth o ferched Cymru weithredodd dros heddwch a chydraddoldeb can mlynedd yn ôl, drwy gynnal ymgyrch drws i ddrws arloesol,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Y realiti, yn anffodus, yw ein bod ni’n parhau i ofyn am heddwch, ganrif yn ddiweddarach.”

“Gweithred gobaith” oedd y ddeiseb wreiddiol, meddai Mererid Hopwood ar ran Pwyllgor Partneriaeth ‘Hawlio Heddwch’ – “un oedd â’i golwg yn gadarn ar y dyfodol, ac un oedd yn cydnabod cyfle a chyfrifoldeb i greu byd di-ryfel”.

“Mae Academi Heddwch Cymru a’i brosiect ‘Hawlio Heddwch’, prosiect sy’n dathlu canmlwyddiant yr Apêl a’i deiseb ryfeddol, yn arbennig o falch felly o weld bod Deiseb 1923-24 wedi ysbrydoli aelodau’r Urdd yn 2024, a’u hysgogi i ystyried ei neges a derbyn ei her.”

‘Pontio deiseb 1924 gyda gweledigaeth merched Cymru heddiw’

Yn ôl Casi Wyn, bu’r dathliad yn gyfle i bontio deiseb 1924 gyda gweledigaeth merched Cymru heddiw.

“Pleser oedd derbyn gwahoddiad gan yr Urdd i gyfarwyddo Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd eleni,” meddai.

“Yn ystod cyfres o weithdai, roedd treulio amser yn pontio’r ddeiseb hanesyddol gafodd ei hysgrifennu yn ôl yn 1924 gyda gweledigaeth merched Cymru heddiw yn ysbrydoledig.

“Maes o law, bydd Efa Blosse Mason, sy’n bartner artistig imi ers blynyddoedd, yn mynd ati i fywiocau geiriau’r neges yn ei chyfrwng arbennig ei hun.”

Hanes y Neges Heddwch ac Ewyllys Da

Bydd yr Urdd yn cyhoeddi geiriau Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (Mawrth 8), cyn rhyddhau’r Neges ar ffurf ffilm fer ddydd Gwener, Mai 17.

Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn rywbeth unigryw i Gymru.

Am dros ganrif bob mis Mai, mae pobol ifanc Cymru wedi rhannu negeseuon ar themâu sy’n bwysig iddyn nhw, drwy rannu’r neges gyda’r byd.

Cafodd Neges 2023 ar wrth-hiliaeth ei gweld mewn 50 o wledydd, ei rhannu mewn 53 o ieithoedd, a’i chefnogi gan enwogion a channoedd o ysgolion ledled Cymru a thu hwnt.

Ers y llynedd, mae’r gist dderw a Deiseb Heddwch Merched Cymru 1924 yn ôl yng Nghymru, ac yn byw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yno, mae staff arbenigol wedi bod yn rhan o’r gwaith o warchod a digido gwerth saith milltir o gynnwys y Ddeiseb er mwyn galluogi mynediad i’r cyhoedd.