Bydd trenau newydd yn cael eu cyflwyno yr wythnos hon i wasanaethu ardal Maesteg ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd fflyd y trenau Dosbarth 197 eu hadeiladu yng Nghymru, a byddan nhw’n teithio ar y cledrau rhwng Maesteg a Cheltenham, gan alw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Casnewydd a Chas-gwent.
Daw’r trenau fel rhan o fuddsoddiad gwerth £80m gan gorff Trafnidiaeth Cymru i uwchraddio cerbydau rheilffyrdd.
‘Profiad llawer gwell’
Yn ôl Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru, bydd y trenau’n cynnig “profiad llawer gwell” i gwsmeriaid.
“Mae gan y trenau newydd sbon hyn fwy o le arnyn nhw, ac maen nhw’n fwy dibynadwy, a byddan nhw’n welliant amlwg ar y trenau mae ein cwsmeriaid wedi arfer teithio arnyn nhw,” meddai.
“Mae lein Maesteg yn rhan bwysig iawn o’n rhwydwaith, felly rwy’n falch iawn y bydd y bobol ar hyd y lein hon yn gallu teithio ar ein trenau newydd sbon a mwynhau’r manteision ddaw yn sgil hynny.
“Mae gwasanaethau Maesteg yn rhedeg trwy Ganol Caerdydd, draw i Sba Cheltenham, felly mae cael y trenau newydd hyn yn rhedeg ar hyd y llwybr hwn yn garreg filltir bwysig arall wrth i ni barhau â’n gweledigaeth i greu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac annog pobol i ddewis opsiynau teithio cynaliadwy.
“Bydd hwn yn brofiad cwsmer llawer gwell ac edrychaf ymlaen at weld cwsmeriaid yn teithio ar ein trenau yn fuan iawn.”
Hanes y fflyd
Dechreuodd fflyd trenau Dosbarth 197 ar eu gwaith y llynedd.
Cafodd 77 ohonyn nhw eu prynu gan CAF, gwneuthurwr o Sbaen sydd bellach wedi sefydlu ffatri yng Nghasnewydd i adeiladu eu trenau.
Y trenau hyn fydd asgwrn cefn y fflyd sy’n gweithredu ar y prif linell, ac mae modd eu ffurfio gyda rhwng dau a chwe cherbyd.
“Mae hwn yn newyddion gwych,” meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
“Er ein bod wedi yn aros yn hir am newid, bellach, mae cymunedau ledled Cymru yn elwa ar ein buddsoddiad o £800m mewn cerbydau rheilffordd newydd.
“Rydym am ei gwneud yn haws i bobol ddewis defnyddio’r trên ac mae’r trenau newydd sbon hyn, a wnaed yng Nghymru, yn fodern ac yn gyfforddus, ac yn darparu profiad llawer gwell i deithwyr sy’n teithio yn ôl ac ymlaen o Faesteg.”
Yn dilyn cyflwyno’r gwasanaeth rhwng Maesteg a Cheltenham, mae disgwyl y bydd trenau’n cael eu lansio ar lein Glynebwy a llinell Doc Penfro erbyn yr haf, ac ar reilffordd y Cambrian yn 2025.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, wrth i fwy o’r trenau hyn ddod i’w meddiant, byddan nhw’n eu defnyddio nhw i ddisodli eu trenau hŷn, ac mae’n bosib y bydd y ddau fath o drên yn rhedeg yn ystod y cyfnod pontio.