Bydd pum awdurdod lleol yn elwa ar gyllid gwerth £8m gan Lywodraeth Cymru i adfywio canol trefi a dinasoedd.
Bydd awdurdodau lleol Abertawe, Caerdydd, Caerffili, Gwynedd a Wrecsam yn elwa ar y rhaglen, a byddan nhw’n defnyddio’r arian i helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd a rhoi bywyd newydd i adeiladau gwag.
Mae’r rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi (TTLs) yn cefnogi awdurdodau lleol gyda phrosiectau adfywio canol trefi a chanol y ddinas, ac mae wedi dyrannu dros £73m ers ei lansio yn 2014.
Mae hefyd wedi dod â thros 600 o adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd.
Yn ôl Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, bydd y rhaglen yn cefnogi prosiectau fydd yn “helpu i greu ymdeimlad o le a strydoedd mawr bywiog” yn ein cymunedau.
“Gyda’r uchelgais o wneud cymunedau’n gynaliadwy yn y tymor hir, nod y rhaglen yw gwella ansawdd bywyd, cyfleoedd swyddi a thwf economaidd i’r bobol sy’n byw ac yn gweithio yn y trefi hynny a’r cyffiniau,” meddai.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae cynghorau’n darparu benthyciadau i gefnogi prosiectau adfywio a dod â bywyd yn ôl i’r stryd fawr ac adeiladau segur ac anghofiedig wrth galon canol eu trefi.”
Y prosiectau
Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gais i rownd ddiweddaraf y rhaglen, gan ofyn am £1m i adfer deuddeg safle defnydd cymysg yng nghanol trefi Caerffili, y Coed Duon a Bargoed.
Cyngor Abertawe fydd yn manteisio ar y gyfran fwyaf o’r rhaglen hyd yma, wrth iddyn nhw ofyn am £3m o fenthyciad i gefnogi chwe phrosiect ar gyfer y ddinas a chymunedau ehangach.
Gofynnodd y cais, a wnaed gan Gyngor Gwynedd, am £700k i ymestyn a gwella’r cynllun benthyciadau presennol sy’n gweithredu yn yr awdurdod lleol, gan adeiladu ar eu llwyddiant presennol a chefnogi’r agenda Trawsnewid Trefi.
Gofynnodd cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am £500,000 i ymestyn y cyllid benthyciad sydd ar gael ar gyfer canol y ddinas, i ailbwrpasu a gwella eiddo yn benodol a lleihau nifer yr eiddo gwag.
‘Newyddion gwych’ i Gaerdydd
Yn eu cais nhw, gofynnodd Cyngor Caerdydd am fwy na £2.9m i ariannu tri phrosiect adfywio yng nghanol y ddinas a’r ardal gyfagos.
Un o’r prosiectau yw caffael ac ailddatblygu Park House ar Park Place – adeilad rhestredig Gradd I gwag sydd o bwys cenedlaethol.
Cyn ei gaffael, roedd yr adeilad wedi bod yn wag ers dros flwyddyn, a thrwy’r rhaglen Trawsnewid Trefi bydd yn cael ei adnewyddu i fod yn lleoliad priodas a digwyddiadau pum seren.
“Mae hwn yn gynllun pwysig sy’n ein galluogi i warchod adeiladau pwysig sydd o ddiddordeb hanesyddol yng nghanol y ddinas, gan ddod â nhw’n ôl yn fyw,” meddai’r Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd y Cyngor.
“Mae Park House yn adeilad trawiadol, a gynlluniwyd gan William Burges, felly mae’n newyddion gwych gwybod y bydd yn elwa o’r gronfa hon.
“Ers i’r pandemig ddod i ben mae chwyddiant wedi codi’n sylweddol.
“Mae hyn wedi arwain at gostau datblygu yn cynyddu’n sylweddol gan wneud adnewyddu adeiladau hanesyddol a rhestredig yn arbennig o heriol.
“Mae rhaglen benthyciadau’r cyngor, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn caniatáu i’r adeiladau hyn gael eu hailbwrpasu, gan greu swyddi newydd sydd o fudd i’r economi leol tra’n cadw adeiladau pwysig ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r rhaglen eisoes wedi arwain at drawsnewid y Tramshed yn Grangetown; Gorsaf reilffordd Trebiwt; 30-31 Windsor Place; Imperial Gate ar waelod Heol Eglwys Fair; a helpu gyda’r gwaith ar Westy Parador 44 yn Stryd y Cei.
“Rwy’n falch iawn o glywed bod y Cyngor wedi derbyn ychydig o dan £3m yn y rownd ddiweddaraf o geisiadau, a bydd rhan o hyn yn cael ei ddefnyddio i drawsnewid Park House gan y Ganolfan Ddinesig, y Tŷ Tollau ar Stryd Bute, ac i helpu gyda chynlluniau newydd ar gyfer gwelliannau pellach yng Ngorsaf Drenau Bae Caerdydd.”
“Rydym wedi cyffroi o gael y cyfle i adfer yr adeilad rhestredig Gradd 1 hanesyddol godidog ac unigryw hwn yng nghanol Caerdydd i fod yn lleoliad trawiadol,” meddai’r cogydd Tom Simmons.
“Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.
“Bydd ein cynlluniau uchelgeisiol yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.”
‘Effaith ddinistriol ar ein strydoedd fawr’
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae Llywodraeth Cymru yn niweidio trefi yn hytrach na’u hadfywio ar hyn o bryd.
“Mae’n frawychus a dweud y gwir fod gan Lywodraeth Cymru’r digywilydd-dra i fentro honni eu bod yn gweithio i adfywio canol ein trefi,” meddai Sam Rowlands, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae Llafur, gyda chymorth Plaid Cymru, yn codi biliau trethi busnes yng Nghymru, fydd yn cael effaith ddinistriol ar ein strydoedd mawr.
“Os yw Llafur eisiau helpu ein cymunedau, dylen nhw wyrdroi’r dewis gwleidyddol i dorri rhyddhad ar drethi busnes.”