Mae Dr Llinos Haf Spencer yn Swyddog Ymchwil yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau, Prifysgol Bangor. Gyda’i chydweithwyr, yn yr erthygl hon mae Llinos yn cyflwyno prosiect newydd i archwilio sefyllfa’r gwasanaeth deintyddol yng Nghymru. (L.Spencer@bangor.ac.uk)
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae dod o hyd i ddeintydd wedi bod yn ymdrech drafferthus i nifer ohonom. Fel ymchwilwyr sy’n byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru, rydym wedi dod yn llawer rhy gyfarwydd â’r mater hwn. Mae prinder deintyddion cymwys ledled y Deyrnas Unedig (DU), ac yn fwy felly yng Nghymru. Mae hyn yn dod yn bryder gwirioneddol mewn ardaloedd gwledig. Mae bron pob gwasanaeth deintyddol yng Nghymru yn cyrraedd capasiti yn gyflym, sy’n golygu nad ydynt bellach yn derbyn cleifion Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) newydd. Hyd yn oed pan fydd practisau newydd y GIG yn agor, mae eraill yn cau neu’n troi i ddarparu gofal deintyddol preifat yn unig, gan adael aelodau’r gymuned heb ddeintydd eto.
Yn y blynyddoedd diwethaf, gadawodd ymarferwyr deintyddol y GIG yn Lloegr hefyd. Yn ôl un adroddiad ar ddiwedd 2020, roedd 23,733 o ddeintyddion yn darparu gofal GIG yn Lloegr, ac erbyn diwedd Ionawr 2022, roedd y nifer hwn wedi gostwng i 21,544 (Gweler Ffigur 1). Mae’r gostyngiad yn nifer y deintyddion yn y GIG wedi gadael tua phedair miliwn o bobl heb fynediad i ofal deintyddol y GIG. Mewn erthygl yn Dentistry.co.ukadroddwyd bod y BBC wedi cynnal ymchwil yn 2022, a ganfu nad oedd unrhyw bractisau deintyddol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn derbyn cleifion GIG oedd yn oedolion, a bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi colli 20 o ddeintyddion y GIG rhwng 2018 a 2022.
Mae diffyg deintyddion GIG yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn awgrymu y dylid cynnal archwiliadau deintyddol rheolaidd i leihau nifer yr achosion o broblemau deintyddol difrifol yn y dyfodol. Y problemau deintyddol mwyaf cyffredin yn y DU yw pydredd dannedd a chlefyd peridontol. Gall y problemau deintyddol hyn fod yn boenus iawn, yn ddrud i’w trin, ac maent yn gallu niweidio iechyd yn ddifrifol os na chânt eu gwirio. Fodd bynnag, mae modd atal y ddwy broblem i raddau helaeth os yw cleifion yn cael mynediad at archwiliadau deintyddol rheolaidd. Yng Nghymru, awgrymodd Datganiad Diwygio Deintyddol 2022-2023 bod angen i gleifion gyda iechyd ceg da symud i ffwrdd o archwiliadau ddwywaith y flwyddyn i wiriad unwaith y flwyddyn gyda gwybodaeth a ddarperir am fanteision hunanofal.
Dannedd iach, pobl iach
Mae Llywodraeth Cymru ar flaen y gad o ran gofalu am genedlaethau’r dyfodol gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) sy’n amlygu’r angen am Gymru iachach. Mae’r Ddeddf yn datgan y dylai Cymru fod yn gymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl mor uchel â phosibl a lle gall pobl wneud dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol. Mae polisi Cymru Iachach Llywodraeth Cymruhefyd yn amlygu pwysigrwydd atal problemau iechyd corfforol a meddyliol. Mewn gwirionedd, un o amcanion llesiant pwysicaf Llywodraeth Cymru yw ‘darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel’. Fodd bynnag, mewn termau canrannol, ym mis Mawrth 2020, roedd gan 60% o boblogaeth Cymru fynediad at ddeintydd GIG, ond erbyn mis Mawrth 2021, roedd hyn wedi gostwng i 48%.
Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), sy’n cynrychioli 42,000 o ddeintyddion wedi awgrymu bod deintyddiaeth y GIG yn system sy’n seiliedig ar sylfeini gwael. Mae ymarferwyr deintyddol wedi adrodd eu bod wedi cael eu llethu gan nifer y cleifion deintyddol sydd angen triniaeth frys ac yn dweud bod y syniad o ddeintyddiaeth ataliol yn rhywbeth o’r gorffennol. Mae rhai deintyddion yng Nghymru wedi dweud wrthym nad yw’r cyllid a gânt yn ymestyn yn ddigon pell i ddarparu triniaeth i bob claf, ac mae llawer o ddeintyddion yn teimlo pwysau i ddarparu gofal brys, gan adael llai o amser ar gyfer deintyddiaeth ataliol. Oherwydd y galwadau ar ddeintyddion, mae rhai yn dewis rhoi’r gorau i’w contract GIG i ymgymryd â gwaith preifat yn yr un practis neu ymddeol yn gynnar. Mae’r llai o ymrwymiad oriau i’r GIG gan ymarferwyr deintyddol yng Nghymru yn golygu bod gofal deintyddol ataliol yn cael ei ddisodli gan driniaeth ddeintyddol frys.
Yn 2022, tynnodd Cyngor Deintyddion Ewrop sylw at yr heriau niferus y mae deintyddion yn eu hwynebu yn ystod y pandemig COVID-19, gyda phractisau deintyddol mewn llawer o wledydd yn gorfod cau dros dro a blaenoriaethu achosion brys yn unig. Nodwyd hefyd bod datblygiadau geo-wleidyddol fel Brexit hefyd wedi effeithio ar y gweithlu deintyddol, er enghraifft, oherwydd yr amodau a’r rheolau newidiol ar gyfer cydnabod cymwysterau i ddeintyddion yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cynrychioli carfan sylweddol yng nghyflenwad marchnad ddeintyddol y DU.
Canfyddiadau perthnasol diweddar
Dangosodd yr astudiaeth dental recur yn ddiweddar bod partneriaeth gosod nodau rhwng y gwasanaethau deintyddol a rhieni/gofalwyr i leihau ail-ddigwyddiad deintyddol ymhlith plant yn gweithio’n dda i leihau nifer y ceudodau a’r llenwadau y mae plant a phobl ifanc yn eu profi . Cost yr ymyriad oedd £6.47 am sgwrs newid ymddygiad 30 munud i drafod gosod nodau, a oedd yn ymyriad cost isel. Roedd hyn yn arbed cost i’r GIG ac yn ymyriad cost-effeithiol. Gellid darparu’r ymyriad gosod nodau hwn mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion, a thrwy ymwelwyr iechyd.
Roedd astudiaeth Bright Smiles (2015) yn astudiaeth ymchwil gyda’r nod o asesu patrymau defnydd gwasanaethau deintyddol gofal iechyd yn ardal Salford ym Manceinion. Roedd yn ddadansoddiad cost-ganlyniad ochr yn ochr ag arbrawf rheoledig ar hap pragmatig o effeithiolrwydd rhaglen ddeintyddol a ddarperir ar lefel gymunedol i rieni babanod o gefndiroedd difreintiedig. Roedd tair braich i’r arbrawf. 1) Grŵp rheoli – gofal arferol. 2) Grŵp prawf 1 – ymyrraeth ymddygiadol a ddarperir gan nyrsys deintyddol a rhieni arbenigol a gofal arferol. 3) Grŵp prawf 2 – farnais fflworid a roddir ddwywaith y flwyddyn gan nyrsys deintyddol a gofal arferol. Fodd bynnag, ni chanfu’r astudiaeth unrhyw wahaniaeth yng nghostau defnyddio adnoddau gwahanol ganghennau’r arbrawf. Daethpwyd i’r casgliad bod y gwahaniaeth mewn costau rhwng breichiau’r arbrawf i’w briodoli i’r gwahaniaeth yng nghost yr ymyriad yn unig.
Mae gwariant Llywodraeth Cymru ar iechyd y geg rhwng 2018-2021 i’w weld yn Ffigur 2.
Y cwestiynau pwysig
Mae pydredd dannedd yn effeithio ar bob unigolyn, ac yn flynyddol mae tua £6 biliwn yn cael ei wario ar ofal hylendid y geg yn y DU yn unig.
Mae pydredd dannedd y gellir ei atal yn achosi llawer o broblemau i unigolion o ran poen corfforol ac anghysur yn ogystal ag effeithio ar gyflogaeth a chynhyrchiant gwaith. Argymhellion NICE a chanllawiau iechyd y cyhoedd yw y dylai cleifion yng Nghymru gael apwyntiadau deintyddol rheolaidd fel y gellir rhoi triniaethau amserol i atal triniaeth frys ddrud.
Dyma’r cwestiynau y mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio iddynt er mwyn sicrhau gwasanaethau iechyd y geg cynaliadwy yn y tymor hir:
• A yw’n glir pwy sy’n cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru?
• A yw’r lleoedd ar y rhestr aros yn cael eu dyrannu yn ôl oedran?
• Ydy plant neu bobl agored i niwed yn cael blaenoriaeth dros oedolion iach?
• A yw pobl ifanc yn cael blaenoriaeth dros oedolion hŷn?
• A oes dogni gwasanaethau iechyd y geg yng Nghymru?
Prin yw’r dystiolaeth economaidd ynghylch effaith hirdymor prinder deintyddiaeth ataliol yng Nghymru.
Y camau nesaf
Mae ein cwestiynau ymchwil i wasanaethau deintyddol yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan dri chynrychiolydd o’r cyhoedd, ac ymarferydd deintyddol o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain a fydd yn darparu arbenigedd gwasanaethau deintyddol, yn enwedig o ran yr Adolygiad Hyrwyddo Gofal Deintyddol. Nod yr ymchwil fydd archwilio’r materion presennol o fewn gofal deintyddol yng Nghymru mewn ymgynghoriad â chleifion deintyddol, ymarferwyr deintyddol, a rheolwyr gwasanaethau deintyddol a chyfrif y gost o beidio â darparu lefel sylfaenol o ofal deintyddol ataliol i blant ac oedolion yng Nghymru. Y prif amcanion fydd nodi bylchau mewn gwasanaethau deintyddol mewn ardaloedd llai difreintiedig yn gymdeithasol yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) ac archwilio rhwystrau a chyfleoedd ar gyfer datblygu gwasanaethau deintyddol yng Nghymru . Yn ogystal, byddwn yn defnyddio dull ystadegol ‘atchweliad’ (regression) i archwilio’r data ac i sefydlu a oes cyd-berthynas rhwng byw mewn ardal ddifreintiedig a mynediad at driniaeth ddeintyddol. Bydd newidynnau eraill sy’n cyd-fodoli yn cael eu cynnwys i reoli ffactorau eraill a allai effeithio ar ddarpariaeth ddeintyddol.
Cyd-awduron
Dr Victory Ezeofor*, Dr Huw Lloyd-Williams*, Ms Kalpa Pisavadia*, Mrs Karen Harrington (Cynrychiolydd o’r cyhoedd), Mr Tony Cope (Cynrychiolydd o’r cyhoedd), Ms Andrea Hughes (Cynrychiolydd o’r cyhoedd), Yr Athro Deborah Fitzsimmons**, Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards*
*Prifysgol Bangor
**Prifysgol Abertawe