Mae arddangosfa deithiol sy’n dathlu dylanwad defaid a gwlân ar siaradwyr ieithoedd lleiafrifol wedi dychwelyd i Gymru.
Dechreuodd y sioe yn Fryslân (Friesland) yn yr Iseldiroedd fel arddangosfa am siwmperi gwlân y pysgotwyr yno, ond wrth deithio i Gymru, Ynysoedd Shetland ac Ynysoedd Allanol Heledd yn yr Alban, Ynysoedd Arann Iwerddon a Gwlad y Basg, mae pob cymuned yn ychwanegu at y casgliad.
Cafodd arddangosfa Cynefin ei hagor ym Melin Meirion yn Ninas Mawddwy ddydd Sadwrn (Chwefror 17), yng nghwmni nifer o gynrychiolwyr o’r tu hwnt i Gymru.
Mae artistiaid fel Luned Rhys Parri a Nicky Arscott wedi cyfrannu at yr arddangosfa ddiweddaraf, sy’n cynnwys siwmperi gwlân o Fryslân ac Arann, a chap gwlân o Shetland.
Prosiect o’r enw Cân y Bugail sy’n gyfrifol am drefnu’r arddangosfeydd, a’r rheiny’n griw sy’n dathlu bywydau a diwylliannau ffermwyr mynydd mewn cenhedloedd bychain ledled Ewrop.
Meic Llewellyn sy’n gyfrifol am greu Cân y Bugail, a dywed mai’r ddau beth pwysicaf fyddai creu arddangosfa ryngwladol sydd, “ar yr un pryd, yn lleol”, a rhoi rhwydd hynt i’r cymunedau wneud y trefniadau ar ei chyfer.
“Byddai pob cymuned yn defnyddio’r arddangosfa i drafod pethau a chreu pethau sydd o ddiddordeb i’r gymuned ei hun,” meddai Meic Llewellyn.
Mae’r darnau newydd yn cynnwys dafad helyg enfawr gan yr artist a’r pypedwr Swsi Kemp o Geinws a phlant lleol.
Yn Llanbrynmair, mae’r artist Nicky Arscott wedi bod yn creu lliain bwrdd enfawr sy’n defnyddio iaith pob gwlad sy’n cymryd rhan yn y prosiect, ac mae’r delynores deires Rhiain Bebb wedi bod yn cynnal gweithdai gyda phlant ysgol gynradd Dinas Mawddwy hefyd, yn edrych ar ganu gwerin am ddefaid a geifr.
‘Hunaniaeth’ drwy’r siwmper wlân
Mae Jacob Bosma yn rhedeg nifer o amgueddfeydd yn Fryslân, a’i arddangosfa yntau am siwmperi pysgotwyr yn ei gymuned oedd egin y cydweithio.
“Roedd y pysgotwyr yn arfer pysgota rhwng y tir mawr a’r ynysoedd uwchben Fryslân, mae’n fôr bas ac o gwmpas y 1850au fe wnaethon nhw ddechrau gweithio i gwmnïau yn Holland, yr Almaen, Lloegr,” meddai wrth golwg360.
“Roedden nhw’n gweithio ar longau pysgota yn mynd i Fôr y Gogledd a thu hwnt, felly mae ganddyn nhw ddylanwadau o gymunedau eraill ar hyd yr arfordir a gan bysgotwyr eraill.
“Mae yna hunaniaeth gref sy’n cael ei dangos yn eu dillad. Cafodd y pysgotwyr eu hysbrydoli, a dod â’r siwmper yn ôl o lefydd eraill.
“I’r Iseldiroedd, fe wnaethon nhw ddyfeisio’r siwmper – nhw oedd y cyntaf i wisgo’r hyn oedd yn arfer bod yn ddillad isaf fel eu prif ddillad. Gwlân, llewys hir, siâp ‘T’.
“Roedd gwragedd y pysgotwyr yn gwneud y siwmperi; rhwng y 1850au a’r 1950au fyddech chi’n gallu adnabod ein pysgotwyr yn sgil y siwmperi.”
Yn 1883, aeth deunaw cwch pysgota ac 83 o ddynion o Fryslân ar goll mewn storm ym Môr y Gogledd, ac ar ôl hynny dechreuodd y gymuned chwilio am waith tu hwnt i’w hardal – gan gynnwys yr Almaen a Lloegr.
Ond mae Jacob Bosma wedi dod o hyd i luniau sy’n dangos bod cysylltiadau rhwng pysgotwyr Shetland a Fryslân hefyd.
“Dw i’n ymchwilio mwy i’r cysylltiadau hynny,” meddai.
“Un o’r cysylltiadau ydy’r siwmper oherwydd bod gymaint o lefydd gyda hanes a thraddodiad gwlân o weu i bysgotwyr.”
‘Cyffrous gweld y cysylltiadau’
Rhan o waith Siún Carden, sy’n gweithio i Brifysgol yr Highlands and Islands ar Ynysoedd Shetland, ydy ymchwilio i weu.
“Dw i wedi gwneud gwaith yn y gorffennol am weu yn yr Alban ac Iwerddon, ac fe wnes i ddod i adnabod Meic drwy gais cyllid oedden ni’n ei wneud ychydig flynyddoedd yn ôl,” meddai wrth golwg360.
“Mae yna rwydwaith ryngwladol o bobol sydd gan ddiddordeb mewn defaid a gwlân a lleoliad ac iaith, a’r celf a’r diwylliant sydd ynghlwm â hynny.
“Mae’n gyffrous gweld y cysylltiadau rhwng y gwahanol lefydd ac mae’n wych cael cyfle i gwrdd â phobol yn y cnawd a siarad am yr arddangosfa.
“Rydyn ni’n gobeithio gwneud mwy efo’n gilydd yn y dyfodol.”
Cap gwlân ar batrwm Fair Isle, sydd wedi cael ei wneud ar gyfer Wythnos Wlân Shetland, ydy cyfraniad yr ynysoedd i’r arddangosfa.
“Fel rhan o hynny, bob blwyddyn mae yna batrwm fair isle newydd yn cael ei ryddhau a phan mae’r wythnos yn digwydd ym mis Medi mae cannoedd o bobol yn cyrraedd Shetland wedi gweu’r het mewn gwahanol liwiau.
“Dyma’r fersiwn gafodd ei wneud ar gyfer Wythnos Wlân 2023.”
- Bydd arddangosfa Cynefin yn Ninas Mawddwy tan Ebrill 5.