Mae Prifysgol Bangor yn ymchwilio i agweddau pobol yng Ngwynedd, Conwy a Môn at y Gymraeg, ei defnydd mewn cyd-destunau amrywiol, a sut mae modd hybu’r iaith yn y siroedd dan sylw.

Caiff y prosiect ei arwain gan Thora Tenbrink, Athro Ieithyddiaeth a Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, a Hannah Eccles-Westbury, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Dr Lowri Hughes, Canolfan Bedwyr a Chyngor Gwynedd.

Mae gofyn i bobol sy’n byw yn un o’r tair sir, yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddi-Gymraeg, ar hyn o bryd gwblhau arolwg byr.

Iaith dan fygythiad

Yn ôl yr ymchwilwyr, dydy hi ddim yn gyfrinach fod y Gymraeg dan fygythiad.

Er gwaethaf cynnydd yn y boblogaeth o 2.6m i 3.1m, mae nifer y rhai sy’n siarad Cymraeg wedi haneru fwy neu lai yn y cyfnod hwn, gan ostwng i’w niferoedd isaf ym 1981.

Mae ymdrechion i warchod ac adfywio’r iaith wedi gweld llwyddiant amrywiol.

Mae tua 250,000 o siaradwyr ychwanegol erbyn hyn o’i gymharu â Chyfrifiad 1981, ac eto bu canran poblogaeth gyffredinol y siaradwyr yn gostwng yn gyson.

“Mae hyn yn golygu, er gwaethaf agweddau diwylliannol ac ieithyddol cadarnhaol cyffredinol yng Nghymru, y gall yr iaith fod yn wynebu dyfodol ansicr,” meddai Hannah Eccles-Westbury.

“Tra bod ymdrechion hyd yma wedi arafu ei dirywiad, nid ydynt wedi bod yn gwbl lwyddiannus yn eu hamcanion – mae angen mwy, ac mae angen inni ddeall yn well pa ran sydd gan yr iaith ym mywydau pobol mewn gwirionedd.

“I rai pobl, gall y Gymraeg gael ei chyfyngu i beuoedd arbennig – efallai teulu a ffrindiau, efallai addysg.

“I eraill, mae’r Gymraeg yn rhan ganolog o’u hunaniaeth ac yn perthyn yn agos i dreftadaeth ac ymlyniad lle.

“Ond i eraill, efallai y teimlir bod diwylliant dwyieithog yn her.”

Annog mwy o bobol i ddefnyddio’r Gymraeg

Mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio y bydd y prosiect yn eu helpu nhw ac eraill i hybu ac annog mwy o bobol i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd yng Ngwynedd, yn enwedig wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor – gan gynnwys cyswllt wyneb yn wyneb, galwadau ffôn a gwasanaethau ar-lein.

“Mae’r arolwg hwn yn un pwysig gan y bydd yn rhoi data i ni am ddefnydd iaith mewn amrywiol gyd-destunau gan gynnwys y gwasanaethau cyhoeddus y mae Cyngor Gwynedd yn eu darparu,” meddai Llywela Owain o Uned Iaith a Chraffu Cyngor Gwynedd.

“Bydd hefyd gobeithio yn rhoi syniad i ni o ba fath o bethau sydd angen i ni fel Cyngor ystyried eu gwneud yn y dyfodol er mwyn gweld mwy o’n trigolion yn defnyddio’r Gymraeg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.”

“Bydd ein harolwg yn archwilio nid yn unig statws yr iaith ac agweddau pobl yn gyffredinol, ond yn fwy penodol rôl y Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau, a pha strategaethau y mae pobol yn teimlo fyddai’n eu helpu,” meddai Thora Tenbrink.

“Anogir cyfranogwyr sy’n byw yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy (boed yn barhaol neu dros dro), ac o bob cefndir ieithyddol (gan gynnwys y di-Gymraeg) i’w gwblhau.”