Byddai codi mwy o beilonau rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin yn gwneud drwg i’r amgylchedd a’r olygfa, yn ôl perchennog tir yn yr ardal.

Mae Bute Energy a Green GEN Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer codi ail set o beilonau a gwifrau yn yr ardal, yn dilyn eu cynlluniau ar gyfer rhaglen debyg yn Nyffryn Tywi.

Byddai peilonau arfaethedig Prosiect Tywi Teifi yn cysylltu Parc Ynni Lan Fawr ger Llanfair Clydogau i’r grid yng Nghaerfyrddin.

Ar hyd y ffordd, byddai’n pasio cymunedau Cellan, Cwmann, Parc-y-rhos, Llanybydder, Llanllwni a mwy.

Agorodd ymgynghoriad i’r cynlluniau fis diwethaf, a bydd ar agor tan Fawrth 6.

‘Ffyrdd gwell’

Byddai’r peilonau naill ai’n cael eu codi ar dir Carolmarie Baxter-Chamberlin Seager yng Nghellan ger Llanbedr Pont Steffan, neu ar dir yr eiddo drws nesaf.

Maen nhw eisoes wedi derbyn llythyrau a mapiau yn gofyn am ganiatâd i arolygu’r eiddo a’r tir, ond maen nhw’n gwrthod ei roi.

“Dydyn ni ddim o blaid y cynllun, rydyn ni o blaid ynni gwyrdd – mae angen i ni gynhyrchu ynni gwyrdd, yn amlwg mae nwy a glo’n ddrwg i’r blaned a’i phobol,” meddai Carolmarie Baxter-Chamberlin Seager wrth golwg360.

“Rydyn ni’n deall bod rhaid i ynni gael ei symud o un lle i’r llall, ond mae yna ffyrdd llawer mwy cynaliadwy o wneud hynny, yn hytrach na dibynnu ar dechnoleg sydd dros gan mlynedd o oed.

“Dw i’n deall bod peilonau a dur yn rhad, a’u bod nhw’n mynd i fyny yn sydyn a’i bod hi’n hawdd i’r cwmnïau sy’n rhedeg y cynllun eu codi nhw.

“Ond mae’n ddrwg iawn i bawb arall sy’n gorfod edrych arnyn nhw, ac yn gorfod ymdopi â’r newidiadau amgylcheddol mae peilonau, concrid a gwifrau trydan drwy’r awyr yn eu hachosi – a’r lleiaf o’r rheiny yw’r niwed mae’n ei wneud i’r olygfa.”

‘Deall yr angen’

Eglura Carolmarie Baxter-Chamberlin Seager eu bod nhw’n rhan o grwpiau yn lleol, a rhai mwy ledled Dyffryn Tywi, sy’n edrych ar ffyrdd cyfreithiol o geisio atal y cwmnïau rhag bwrw ymlaen â’r cynlluniau neu eu gorfodi nhw i ailystyried sut i redeg y gwifrau.

“Mae’n bosib eu rhoi nhw dan ddaear, mae yna sawl ffordd o wneud hynny ac mae yna nifer o gwmnïau yng Nghymru sy’n gallu gwneud hyn ac sydd wedi bod yn gwneud hynny,” meddai.

“Waeth lle fyddan nhw’n [codi’r peilonau yma] byddan nhw’n effeithio arnom ni.

“Mae gennym ni nifer o ffynhonnau artesiaidd ac unwaith y byddwch chi’n dechrau cloddio’r tir a rhoi concrid mewn, yna bydd yn newid llwybr y dŵr.

“Rydyn ni’n defnyddio dŵr o’r ffynhonnau hyn yn y tŷ, ac yn byw yn gynaliadwy – rydyn ni’n deall yr angen dros gael ynni, mae gennym ni baneli solar a dw i’n gyrru car trydan, dw i yn deall.

“Ond mae yna ffyrdd gwell, mwy addas fydd yn para’n hirach i symud ynni o un lle i’r llall na’r hyn maen nhw’n gynnig.”

‘Angen seilwaith newydd ar frys’

Ar eu gwefan, mae Green Gen Tywi Teifi yn nodi nad yw rhwydwaith trydan gorllewin Cymru yn gallu cysylltu ynni adnewyddadwy newydd â chartrefi a busnesau, a bod angen seilwaith newydd ar frys “er mwyn rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil”.

“Mae Green GEN Cymru yn cynnig llinell uwchben 132kV newydd i gysylltu Parc Ynni Lan Fawr yng ngorllewin Cymru ag is-orsaf newydd y Grid Cenedlaethol yng Nghaerfyrddin,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod fod gan bobol safbwyntiau gwahanol am seilwaith a pheilonau newydd.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar darfu cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd a’r bobol sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau gweithgareddau hamdden yn agos at ein cynigion.

“Byddwn yn datblygu ein prosiect yn sensitif ac yn ystyried a oes angen gosod unrhyw ran o’r cysylltiad o dan y ddaear i ymateb i asesiadau parhaus ac adborth i’r ymgynghoriad.”

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ar y cynigion ei gynnal yn Llanllwni ddechrau’r mis, a bydd digwyddiad yn Neuadd Mileniwm Cellan ddydd Iau (Chwefror 22), ac un yn Llanybydder ddydd Gwener (Chwefror 23).