Mae Liz Saville Roberts yn galw ar Aelodau Seneddol Cymru i bleidleisio dros gadoediad yn Gaza, pan fyddan nhw’n bwrw eu pleidlais ddydd Mercher (Chwefror 21).
Daw’r alwad gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl i dri Aelod Seneddol y Blaid gefnogi cynnig gan yr SNP yn galw am gadoediad ar unwaith.
Mae’r cynnig hefyd yn galw ar Hamas i ryddhau pob un o’u gwystlon, ac i roi terfyn ar gosbi pobol Palesteina.
Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar ôl dadl yn San Steffan.
Mae Liz Saville Roberts wedi beirniadu Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, am “fethu â sefyll i fyny dros ddynoliaeth” hyd yma.
“Rhaid bod gan bobol Palesteina warchodaeth lawn a chyson gan bob cenedl sy’n parchu rheol y gyfraith,” meddai.
Cynnig Plaid Cymru yn y Senedd
Cafodd cynnig tebyg gan Blaid Cymru gefnogaeth y Senedd ym mis Tachwedd, ar ôl i Lywodraeth Lafur Cymru ymatal rhag pleidleisio, gan roi pleidlais rydd i’w haelodau meinciau cefn.
Roedd y cynnig hwnnw’n beirniadu’r ymosodiadau gan Hamas ar sifiliaid Israel, ac ymosodiadau “diwahân” Llywodraeth Israel ar Gaza.
Cafodd y cynnig hwnnw ei basio o 24 pleidlais i 19, gydag 13 aelod yn atal eu pleidlais.
‘Unman ar ôl iddyn nhw fynd’
“Mae Llywodraeth Israel wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynllunio ymosodiad milwrol llawn yn Rafah, lle cafodd dros filiwn o bobol eu gorfodi i ffoi i ddiogelwch,” meddai Liz Saville Roberts.
“Does unman ar ôl iddyn nhw fynd.
“Byddai’n afresymol i Dŷ’r Cyffredin wrthod galw am gadoediad ar unwaith yn wyneb y fath fygythiad.
“Dyna pam fod Plaid Cymru’n galw ar bob Aelod Seneddol Cymreig i gefnogi cynnig yr SNP am gadoediad ddydd Mercher.
“Fisoedd yn ôl oedd yr adeg iawn i alw am gadoediad.
“Rŵan, gyda nifer y marwolaethau wedi codi dros 28,000 mae gennym oll gyfle i sefyll dros ddynoliaeth a thros heddwch.
“Rhaid bod gan bobol Palesteina warchodaeth lawn a chyson gan bob cenedl sy’n parchu rheol y gyfraith.
“Mae’r cynnig yn galw am gadoediad ar y ddwy ochr, ac am ryddhau ar unwaith yr holl wystlon gafodd eu cipio gan Hamas, a therfyn ar gosbi cilyddol pobol Palesteina.
“Mae’r cynnig yn glir; llai felly ymateb Llafur.
“Dyma gyfle Keir Starmer i geisio sefyll i fyny dros ddynoliaeth o’r diwedd.”
Galw am ystyried ailsefydlu cynllun fisa i aduno Palestiniaid
Mae Liz Saville Roberts wedi annog Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i ailystyried sefydlu cynllun fisa i aduno Palestiniaid sydd wedi’u dadleoli, gydag aelodau o’u teulu yn y Deyrnas Unedig.
Yn ddiweddar, mae hi wedi cyfarfod ag Emily Fares o Lwyngwril, sydd â nifer sylweddol o aelodau’r teulu yn gaeth yn Gaza.
Ers dechrau’r bomio gan Israel, mae’r teulu wedi cael eu dadleoli, eu cartref yn Khan Yunis wedi’i ddinistrio, ac maen nhw wedi’u gorfodi ar y strydoedd heb unrhyw fynediad at fwyd, dŵr na meddyginiaeth.
Dim ond saith mis oed yw’r aelod ieuengaf o’r teulu, a’r hynaf yn 71 oed.
Ers hynny, mae’r teulu wedi gwahanu gyda hanner ohonyn nhw – gan gynnwys merched a phlant – ar strydoedd Rafah yn ceisio lloches, tra bod tua 16 wedi’u cyfyngu i ystafell sengl ar fferm heb fynediad at ddŵr, bwyd, na cyfathrebu.
Mae ofnau’n cynyddu am eu diogelwch cyn ymosodiad arfaethedig gan Israel ar Rafah.
Mae Emily Fares wedi sefydlu apêl codi arian fel ymdrech olaf i geisio achub y teulu.
“Mae gan fy etholwraig Emily Fares o Lwyngwril sawl aelod o’r teulu yn gaeth yn Gaza,” meddai Liz Saville Roberts.
“Nid yw’r ieuengaf ond yn saith mis oed.
“Mae cartref eu teulu yn Khan Yunis wedi’i ddinistrio.
“Mae cysylltu â nhw bellach bron yn amhosibl.
“Maen nhw wedi cael eu gorfodi ar y strydoedd mewn ymgais enbyd i ddod o hyd i loches rhag bomio parhaus gan luoedd Israel.
“Nid oes dŵr glân, bwyd, na mynediad at feddyginiaeth.
“Mae’r sefyllfa ar lawr gwlad yn arswydus.
“Maen nhw dan warchae mewn parth rhyfel.
“Ers bron i chwe mis mae Cymru a gweddill y byd wedi bod yn dyst i arswyd a dioddefaint annirnadwy yn Gaza.
“Cafodd teuluoedd cyfan eu lladd, trodd cymdogaethau yn rwbel, cwymp llwyr ysbytai, gweithfeydd pŵer a chyfleusterau dŵr.
“Mae Emily bellach wedi cychwyn ariannu torfol i godi arian i sicrhau diogelwch ei theulu.
“Galwaf ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol ac ailystyried sefydlu cynllun fisa i ailuno teuluoedd Palestiniaid ag aelodau o’r teulu yn y Deyrnas Unedig.
“Rhaid i’r gymuned ryngwladol ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddyn nhw i amddiffyn sifiliaid rhag marwolaeth a dinistr.
“Rhaid i unrhyw gynllun gynnwys yr hawl i ddychwelyd i Gaza.
“Mae’n rhaid i’r bomio creulon sydd wedi lladd dros 29,000 o Balesteiniaid, bron i ddwy ran o dair ohonyn nhw’n ferched a phlant, ac wedi dadleoli eraill ddod i ben ar unwaith.
“Mae’n hen bryd i’r llywodraeth wrando ar alwadau cynyddol a chefnogi cadoediad ar unwaith.”