Mae cynllun newydd arloesol wedi cael ei lansio er mwyn helpu cwmnïau yng Ngwynedd i fynd yn ddigidol, ceisio atal diboblogi cefn gwlad, a hybu economi’r sir.

Mae’r cytundeb i redeg prosiect Dyfodol Digidol wedi’i ennill gan Lafan, cwmni ymgynghori sy’n tyfu’n gyflym ac a fydd yn darparu sesiynau mentora a hyfforddiant.

Mae prosiect Cyngor Gwynedd wedi derbyn arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd, ac mae ar gael am ddim i unrhyw fusnesau sydd wedi’u lleoli yn y sir.

Mae’n adeiladu ar lwyddiant prosiect tebyg y llynedd, gan weithio gyda chwmnïau yn y diwydiannau lletygarwch a bwyd a diod, ond mae’r fersiwn newydd wedi ehangu ei gwmpas ac mae’n agored i gwmnïau o unrhyw faint ym mhob sector.

Bydd cwmnïau sy’n cofrestru yn cael tair sesiwn fentora un-i-un gan arbenigwr digidol a byddant yn gallu dewis o blith 30 o weithdai hyfforddi gwahanol fydd yn cael eu cynnal ar-lein yn bennaf.

Mae’r prosiect yn cael ei ddarparu gan Lafan mewn partneriaeth â’r ganolfan arloesi M-Sparc, y cynllunwyr gwefannau Gwe Cambrian a’r cwmni marchnata Marketshed.

Cwmnïau “ddim yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael”

“Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi busnesau i dyfu’n ddigidol,” meddai Jamie Hughes, ymgynghorydd Lafan.

“Y cam cyntaf yw sefydlu amcanion y busnes ac yna darganfod beth sydd ei angen ar y cwmni, boed hynny’n e-farchnata, cyfryngau cymdeithasol, dewis meddalwedd cywir, gwefannau, e-fasnach neu systemau cyfrifyddu ac ati.

“Mi wnes i weld yn ystod rhaglen y llynedd nad oedd llawer o gwmnïau yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael.

“Efallai eu bod yn treulio dau ddiwrnod ar dasgau cyllid neu dasgau gweinyddol lle gallen nhw, efo ychydig o gefnogaeth gan lwyfan digidol, leihau’r amser hynny i ychydig oriau yn unig a gwneud y busnes yn llawer mwy effeithlon.

“Gall rhaglenni digidol ganiatáu mynediad i’r holl staff, felly mae’n llawer gwell o ran cydlynu a rhannu gwybodaeth.

“Mae gan e-farchnata y gallu i drawsnewid ffawd busnes a gall gwerthu ar-lein agor marchnadoedd newydd a chynyddu’r sylfaen cwsmeriaid.

“Gall harneisio pŵer y llwyfannau digidol roi hwb gwirioneddol i fusnes mewn ardal wledig fel Gwynedd.

“Mae gwerthu ar-lein yn golygu y gellir lleoli busnes yn unrhyw le felly does dim angen safleoedd manwerthu arnoch mewn ardal boblog iawn.

“Mae hynny’n golygu y gall busnesau barhau i dyfu a ffynnu yng Ngwynedd, gan greu cyflogaeth a helpu i atal diboblogi gwledig, lle byddai pobol ifanc o’r blaen yn gorfod symud i ffwrdd i ddod o hyd i waith.

“Mae llawer o’r busnesau hyn yn gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud ond dydyn nhw ddim yn siŵr sut i gyrraedd yno, a dyna lle rydyn ni’n dod i mewn.

“Gallwn weithio efo nhw a dod o hyd i’r atebion cywir iddyn nhw – nid yw’n ddull un maint i bawb, mae’r cymorth wedi’i deilwra i anghenion busnesau unigol.

“Yn ystod y prosiect cyntaf, buom yn gweithio efo cwmnïau a’u helpu i symud i sdefnyddio’r feddalwedd berthnasol i’w cynorthwyo gyda rheoli stoc.

“Mae rhaglenni cyfrifeg a darllen anfonebau yn arbed llawer iawn o amser, tra gall trefnu anfon cylchlythyr allan yn rheolaidd fod yn arf marchnata ardderchog.”

Caws Cosyn Cymru

Ymhlith y rhai gafodd gymorth yn ystod y prosiect cyntaf y llynedd oedd y gwneuthurwr caws nodedig Carrie Rimes o Fethesda.

Mae ei chaws Cosyn Cymru, wnaed gyda llaeth dafad, wedi ennill llu o wobrau a’r llynedd cafodd ei henwi fel y Cynhyrchydd Bwyd Gorau yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC.

Er ei bod hi’n wych am wneud caws, nid technoleg oedd ei chryfder.

Felly rhoddodd Jamie Hughes help llaw i Carrie Rimes wrth integreiddio ei systemau cyfrifiadurol, drwy rannu ffeiliau a defnyddio meddalwedd cyfrifo i reoli anfonebau.

“Mae Jamie wedi bod yn help mawr iawn oherwydd dydi ochr ddigidol pethau ddim yn dod mor hawdd â hynny i mi,” meddai.

“Ond rwy’n deall ei fod yn hollol hanfodol, ac mae rhai pethau y mae’n rhaid i ni eu gwneud yn ddigidol bellach, fel yr ochr cyfrifyddu er enghraifft.

“Mae yna gyfres o bethau eraill a allai yn sicr wneud ein bywydau yn haws i leihau nifer yr oriau rwy’n eu treulio ar y gliniadur.

“Mae’n fater o ddod o hyd i bethau pwrpasol sy’n cyd-fynd efo’n busnes a dyna lle mae’r sesiynau un-i-un efo Jamie wedi bod mor ddefnyddiol, gan deilwra’r sesiwn i anghenion y busnes.

“Mae Dyfodol Digidol yn rhywbeth y byddwn yn ei argymell yn fawr i gwmnïau eraill.”