Mae rhagor o gwyno am agwedd staff Swyddfa’r Post yn Aberystwyth at y Gymraeg.

Daw’r digwyddiad diweddaraf wythnosau’n unig ar ôl protest y tu allan i’r adeilad, yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau’n amlygu agweddau gwrth-Gymraeg yno.

Roedd addewidion gan Swyddfa’r Post yn 2022 na fyddai’r agweddau negyddol yn parhau, wrth iddyn nhw ateb llythyr gan Gymdeithas yr Iaith.

Er gwaetha’r addewid, fe fu nifer o adroddiadau o brofiadau tebyg yno ers hynny, gan gynnwys sylwadau nad yw’r Gymraeg yn iaith swyddogol – sy’n anghywir – a chafodd rhai cwsmeriaid eu cyfeirio at gangen arall er mwyn derbyn gwasanaeth Cymraeg.

Mynnodd Cymdeithas yr Iaith fod hyn yn wasanaeth annigonol, a’i fod yn groes i Fesur Iaith 2011, sy’n sefydlu hawl pawb yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg.

‘Beth sy’n bod yn Swyddfa’r Post Aberystwyth?’

Cafodd y digwyddiad diweddaraf sylw ar X (Twitter gynt) gan Aaron Clwyd Jones, Swyddog Ymgyrchu Plaid Pride ac aelod o Blaid Ifanc.

“Beth sy’n bod yn swyddfa’r post Aberystwyth?” gofynna.

“Siaradais i yn Gymraeg, a dywedodd yr aelod staff yn gweithio yno ‘Sori’ yn uchel ac yn haerllug bob tro, fel pe bawn i’n mwmial rwtsh yn hytrach na dweud, ‘Sumae, hoffwn i bostio hyn i’r Almaen’ – cyn dweud wrtha i’n swta am ddefnyddio Saesneg.

“Onid ydy ‘Oh, I’m sorry, I don’t speak Welsh’ neu ‘Sori, dwi’m yn siarad Cymraeg’ yn ymadrodd sylfaenol i’w ddefnyddio wrth weithio efo’r cyhoedd?

“Mae gwneud pwynt o ymddwyn fel pe bai rhywun yn siarad Cymraeg â chi yn Aberystwyth yn sarhad jest yn rhyfedd.

“Gwnaed i mi deimlo fel pe bawn i’n broblem.”

Piced ger Swyddfa’r Post yn Aberystwyth tros ddiffyg gwasanaethau Cymraeg

Mae adroddiadau am agweddau gwrth-Gymraeg yno, er gwaethaf addewidion y bydden nhw’n mynd i’r afael â’r sefyllfa