Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i hepgor safleoedd dynodedig – megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – rhag taliad sylfaenol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn afresymegol, yn ôl Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru.

Bydd y Cynllun Taliad Sylfaenol presennol yn dod i ben erbyn 2029, ac yn cael ei ddisodli gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy o 2025.

Mae’n rhaid i ffermwyr sy’n dymuno ymuno â’r cynllun a derbyn y taliad gyflawni 17 o Gamau Gweithredu Cyffredinol y cynllun.

O dan gynigion Llywodraeth Cymru, bydd tir fferm sydd wedi’i ddynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael ei eithrio o elfen cynnal a chadw cynefinoedd y cynllun.

Mae Hedd Pugh, cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru, yn dweud bod y cynlluniau diweddaraf, fydd yn gwneud safleoedd gwarchodedig yn anghymwys ar gyfer elfen o’r cynllun, yn “ddryslyd.”

“O ystyried bod tua 1,070 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda llawer ohonyn nhw wedi’u lleoli ar ffermydd, mae’n annealladwy bod y safleoedd hyn i’w heithrio o Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy,” meddai.

“Yn enwedig pan wyddom y bydd yn cymryd amser i gael y Cynlluniau Rheoli gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn eu lle a bydd angen llawer mwy o waith i roi Haen Gweithredu Ddewisol y cynllun ar waith.”

‘Angen gwobrwyo ffermwyr’

Dywed Hedd Pugh ymhellach fod rhai ffermydd yn cefnogi nifer helaeth o ddynodiadau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a bod cynigion Llywodraeth Cymru “yn teimlo’n arbennig o gosbol” i’r ffermwyr hyn.

“Mae’r safleoedd hyn i fod yr enghreifftiau gorau o’n hamgylchedd naturiol gan adlewyrchu arferion rheoli cadarnhaol gan ffermwyr dros genedlaethau,” meddai.

Yn 2022, cafodd adolygiad o fioamrywiaeth ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, ac fe wnaethon nhw argymell bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi’i gynllunio i sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ddarparu rheolaeth briodol ar safleoedd gwarchodedig.

Ychwanega Hedd Pugh fod hyn yn gwneud y cynlluniau diweddaraf “hyd yn oed yn fwy o syndod”.

“Mae Llywodraeth Cymru eisiau ymestyn yr ardal o dir o dan ryw fath o ddynodiad ond ni all hyd yn oed ddarparu’r cymorth mwyaf sylfaenol ar gyfer y safleoedd presennol,” meddai.

Ychwanega fod yn rhaid i bolisi amaethyddol y dyfodol “wobrwyo ffermwyr yn deg” am y nwyddau amgylcheddol a chyhoeddus maen nhw’n eu darparu.

“Byddech yn gobeithio y bydd cytundeb eang nad yw safbwynt polisi presennol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn gynaliadwy,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.