Mae aelodau o bwyllgor sgriwtini Cyngor Sir Ynys Môn wedi cefnogi cynlluniau i gau ysgol leia’r ynys.

Dim ond naw o ddisgyblion sydd yn Ysgol Carreglefn ger Amlwch erbyn hyn, er bod yna 42 ddeuddeg mlynedd yn ôl – ac mae hynny’n golygu nad oedd angen cynnal ymgynghoriad ymlaen llaw cyn mynd i ati i’w chau.

Roedd swyddogion y Cyngor wedi argymell cau’r ysgol erbyn mis Medi eleni, a hynny wrth i nifer y disgyblion barhau i ostwng.

Y disgwyl yw y bydd disgyblion yr ysgol yn cael eu symud i Ysgol Gymuned Llanfechell, sydd dros ddwy filltir i ffwrdd.

£17,200 yw’r gost fesul disgybl yn Ysgol Gymuned Carreglefn, sef y gost fwyaf yng Nghymru a thair gwaith cost gyfartalog y sir (£5,240).

Roedd un cynghorydd yn dadlau dros gadw’r ysgol ar agor er mwyn cadw’r adeilad ar gyfer y gymuned, gyda siopau, capeli a chyfleusterau eraill y pentref wedi hen fynd.

Dywed y Cyngor Sir eu bod nhw wedi ymrwymo i gynnal trafodaethau er mwyn cadw’r adeilad er budd y gymuned leol.

Bydd pwyllgor gwaith y Cyngor Sir yn derbyn argymhelliad y pwyllgor, a bydd y pwyllgor gwaith yn ystyried cyhoeddi rhybudd statudol i gau’r ysgol erbyn diwedd y flwyddyn academaidd bresennol.