Mae system newydd wedi cael ei dyfeisio er mwyn helpu cleifion sydd â symptomau PTSS, neu straen wedi trawma, wrth iddyn nhw ymweld â’r ysbyty.

Gall trawma sy’n gysylltiedig ag iechyd neu amgylchfyd meddygol gael cryn effaith ar gleifion am flynyddoedd lawer, gan ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw fynd i apwyntiadau.

Mae hyd at 20% o bobol sydd wedi bod yn ddifrifol wael ddioddef symptomau straen wedi trawma, ac fe all gael effaith ar y ffordd maen nhw’n ymateb i’r profiad o ddychwelyd i’r ysbyty – o gyfathrebu â staff i dderbyn triniaethau.

Ond mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gobeithio y bydd y system newydd yn helpu staff i ymateb yn well pan fydd achosion o’r fath yn codi.

Mae’r system wedi’i chyflwyno i Borth Clinigol Cymru, sef gwefan ddiogel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n cael ei defnyddio gan staff, fel bod modd tynnu sylw at amgylchiadau unigol cleifion ac unrhyw beth allai achosi neu symbylu eu trawma.

System ar sail tystiolaeth

Mae’r system bellach ar gael i staff ar ôl i glaf gytuno i rannu ei phrofiadau o PTSS yn ystod ymweliadau â’r ysbyty fel claf mewnol ac allanol.

Roedd y ddynes wedi anafu ei throed, ond doedd hi ddim wedi ceisio triniaeth am saith awr o ganlyniad i drawma yn gysylltiedig ag ymweliad blaenorol.

Pan aeth y boen yn ormod iddi, fe wnaeth perthynas iddi ffonio adran frys i roi gwybod iddyn nhw am y trawma.

Ar ôl cael ymgynghoriad cychwynnol, cafodd ei hanfon i aros yn ei char er mwyn lleihau ei gorbryder, a derbyniodd hi alwad ffôn pan ddaeth yr amser iddi gael ei hapwyntiad.

Dywed iddi gael ei thrin â chydymdeimlad, parch a sicrwydd, a chafodd hi eglurhad sylweddol am ei thriniaeth a gwrandawiad astud wrth fynegi ei phryderon.

Cafodd ei thrin yn yr un modd mewn apwyntiad arall gydag arbenigwr, ond roedd y ddau brofiad cyntaf yn dra gwahanol i’r trydydd – gyda ffisiotherapydd nad oedd yn ymwybodol o’i chyflwr.

Bryd hynny, meddai, dioddefodd hi drawma wrth feddwl yn ôl at apwyntiadau anodd yn y gorffennol, gan droi profiadau positif blaenorol yn rhai negyddol unwaith eto.

Cadw cofnod â chaniatâd cleifion

Fel rhan o’r drefn newydd, mae cofnodion cleifion bellach yn cynnwys gwybodaeth am orbryder a chyflyrau tebyg sy’n gwneud ymweld â’r ysbyty yn anodd.

“Mae clinigwyr bob amser yn gwrando ar anghenion y claf, ond efallai nad ydyn nhw’n ymwybodol o’r hyn sy’n achosi pwl o PTSS, ac fe allen nhw wneud eu profiad ysbyty yn un pryderus heb yn wybod iddyn nhw,” meddai Clare Baker, Dirprwy Bennaeth Ansawdd a Diogelwch Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

“Gan gydweithio ag Elizabeth Brimacombe ac Alison Gorman [yn ardal Bae Abertawe], fe wnaethon ni roi’r broses ar waith yn dilyn profiad y claf hwn, er mwyn adnabod PTSS ar gofnodion claf, gyda chaniatâd cleifion.

“Mae hyn yn hysbysu’r gofalwr iechyd proffesiynol, ac yn eu galluogi nhw i roi mecanweithiau cymorth yn eu lle ar gyfer y claf.

“Mae’n system syml, ond yn un allai wneud gwahaniaeth enfawr i glaf, ac rydyn ni eisiau i’w profiad ysbyty fod yn un positif.”