Mae enw cynghorydd UKIP wedi cael ei dynnu oddi ar restr enwau ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai am iddo feirniadu polisi’r blaid o dderbyn ymgeiswyr o Loegr.
Rhybuddiodd Kevin Mahoney y byddai’n gadael y blaid pe bai’r cyn-Geidwadwyr Neil Hamilton a Mark Reckless yn cael eu derbyn fel ymgeiswyr.
Cafodd Mahoney wybod ddydd Sadwrn fod y blaid yn bwriadu ei ddisgyblu.
Fe fydd yn parhau fel cynghorydd annibynnol ym Mro Morgannwg.
Dewis ymgeiswyr
Cafodd polisi’r blaid ar gyfer dewis ymgeiswyr ei ffurfioli yn ystod cyfarfod ddydd Sadwrn.
Aelodau’r blaid fydd yn cael dewis yr ymgeiswyr yn dilyn pleidlais.
Mae lle i gredu y gallai UKIP ennill sawl sedd ranbarthol ym mis Mai drwy gynrychiolaeth gyfrannol.
Nathan Gill
Daw’r helynt diweddaraf ar ddiwedd wythnos gythryblus i’r arweinydd yng Nghymru, Nathan Gill.
Roedd nifer o ymgeiswyr y blaid wedi galw arno i ymddiswyddo ddydd Iau ynghylch y ffordd yr oedd y polisi o ddewis ymgeiswyr wedi cael ei roi at ei gilydd.
Roedd Joe Smyth, ymgeisydd UKIP yn Islwyn, wedi cyhuddo Nathan Gill o ddiffyg arweiniad.