Fe fydd tai fforddiadwy ar frig agenda cynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd sy’n dod i ben ddydd Sul.
Mae disgwyl i’r blaid amlinellu cynlluniau i godi 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod y pum mlynedd nesaf pe baen nhw’n ennill grym yn y Cynulliad ym mis Mai.
Byddai cynllun o’r fath yn gofyn am ddyblu gwariant ar dai fforddiadwy o £35 miliwn i £70 miliwn y flwyddyn.
Bwriad y blaid yw cefnu ar gynlluniau i wella’r M4 yng Nghasnewydd fel bod modd neilltuo rhagor o arian ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru.
Addysg rhyw
Mater arall fydd yn cael sylw ar ddiwrnod ola’r gynhadledd yw addysg rhyw i blant.
Fe fyddan nhw’n cynnal dadl ar ddileu hawl rhieni i dynnu eu plant allan o wersi mewn ysgolion.
Byddai dileu’r hawl yn gwella iechyd rhyw ac yn codi ymwybyddiaeth o droseddau rhyw ymhlith mwy o bobol, meddai cefnogwyr y cynlluniau.
Ddydd Sadwrn, galwodd arweinydd y blaid yn San Steffan ar y blaid yng Nghymru i herio “hawl” y Blaid Lafur i fod mewn grym am dymor arall.