Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae dyn 71 oed wedi’i gael yn euog o achosi creulondeb i blentyn mewn cartref gofal yn Wrecsam.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, cafwyd Keith Evans o ardal Rhosrobin, Wrecsam, yn euog o achosi creulondeb i fachgen a oedd tua 13 neu 14 oed yng nghartref gofal Bryn Alyn, Wrecsam.

Cafodd ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial, sy’n ymchwiliad gan yr Asiantaeth Trosedd Cenedlaethol (NCA) i achosion o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Cafwyd Evans yn ddieuog o chwe chyhuddiad arall o greulondeb.

Roedd dyn arall Kelvin Horriben, 63,  o Beeston, Sir Nottingham wedi’i gael yn ddieuog o un cyhuddiad o achosi creulondeb ac un cyhuddiad o ymosod.

Fe fydd Evans yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Mawrth.

Mae saith dyn wedi cael eu cyhuddo o droseddau yn dilyn Ymchwiliad Pallial, gan gynnwys y perchennog cartref gofal John Allen a gafodd ei garcharu am oes, a phum aelod o grŵp o bedoffiliaid a gafodd eu dedfrydu i gyfanswm o 43 mlynedd yn y carchar.

Mae Ymchwiliad Pallial yn parhau.