Canser yr ysgyfaint
Ar Ddiwrnod Canser y Byd, mae gwaith ymchwil yn dangos bod mwy o bobol yn cael canser yng Nghymru a bod mwy yn goroesi.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 14% dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn nifer yr achosion newydd o ganser yng Nghymru.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hyn o ganlyniad i bobol yn byw yn hirach, a chynnydd yn nifer y canserau ataliadwy ym mhobol ganol oed a phensiynwyr ifanc, yn enwedig ymysg menywod.
Canser yr ysgyfaint a thlodi
Mae’r adroddiad gan Uned Wybodaeth a Gwyliadwriaeth Ganser yn dangos cysylltiad cryf rhwng canser yr ysgyfaint a thlodi yng Nghymru.
Mae nifer y bobol mewn ardaloedd difreintiedig sy’n cael canser yr ysgyfaint tua dwywaith a hanner yn fwy na’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac mae’r bwlch wedi ehangu yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae nifer y menywod sy’n cael canser yr ysgyfaint hefyd wedi cynyddu, gyda 243 o achosion ychwanegol ar gyfartaledd o gymharu â 10 mlynedd yn ôl.
Menywod – cyfraddau uchaf yn Ewrop
Bellach, mae gan fenywod yng Nghymru y gyfradd uchaf o ganser yr ysgyfaint yn Ewrop. Roedd nifer y dynion yn cael canser yr ysgyfaint heb newid bron o gwbl.
Roedd yr adroddiad hefyd yn canfod bod canser yr ysgyfaint yn achosi mwy o farwolaethau na chanser y fron a chanser y coluddyn gyda’i gilydd.
Yng Nghymru, mae canser yr ysgyfaint, y fron, y brostad a’r coluddyn yn parhau i fod y canserau mwyaf cyffredin, ac ynghyd â melanoma, dyma oedd y canserau a gynyddodd fwyaf dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Mae mwy o bobol mewn ardaloedd breintiedig yn cael canser y fron, ond mae’r bwlch yn cau wrth i nifer y menywod mewn ardaloedd difreintiedig sy’n cael canser gynyddu.
Canserau ataliadwy
“Mae’r ffigurau’n dangos bod nifer yr achosion newydd o ganser yng Nghymru yn parhau i gynyddu gan fod pobol yn byw yn hirach ac am fod rhai canserau ataliadwy ym mhobol ganol oed a phensiynwyr ifancach, yn enwedig menywod,” meddai Dr Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr yr Uned Wybodaeth a Gwyliadwriaeth Ganser.
“Mae effeithiau o beryglon ataliadwy fel smygu, gordewdra, yfed alcohol, diet gwael ac anweithgarwch corfforol hefyd yn arwain ar gyfraddau uwch ym mhensiynwyr ifanc, yn enwedig menywod.
“Y newyddion da yw y bydd llawer o fentergarwch heddiw, fel deddfwriaeth i leihau smygu, yn helpu atal canserau o’r fath yn y dyfodol, a gallwn wneud mwy. Fodd bynnag, dydy tua chwech ym mhob 10 achos o ganser ddim yn ataliadwy.”
Yn ôl yr adroddiad, canser y ceilliau, yr iau, y brostad, y fron, a melanoma sydd â’r cyfraddau goroesi gorau.
Canser yr ysgyfaint, liwcimia myeloid aciwt, canser yr afu a’r pancreas sydd â’r cyfraddau isaf o oroesi.
Cleifion ‘ar eu colled’ – Plaid Cymru
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones, fod cleifion yng Nghymru ar eu colled ar hyn o bryd oherwydd amseroedd aros rhy hir yng Nghymru am brofion diagnostig sylfaenol, ac oherwydd loteri cod post am rai cyffuriau a thriniaethau.
Ychwanegodd y byddai ei phlaid yn cyflwyno contract canser a fydd yn lleihau amseroedd aros, sefydlu Cronfa Triniaethau newydd i gael mynediad at foddion newydd a sicrhau cefnogaeth unigol gan nyrsys a meddygon cyn ac ar ôl y driniaeth.
“Bydd Contract Canser Plaid Cymru yn targedu’r problemau hyn, gan gyflymu diagnosis, rhoi mwy o gefnogaeth i gleifion trwy holl hynt eu clefyd, ac ehangu mynediad at gyffuriau a thriniaethau newydd,” meddai Elin Jones.
“Mae ymdopi gyda diagnosis o ganser yn ddigon anodd ar y gorau, a byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i wella gofal i gleifion, a lleihau’r straen hwnnw.”