Mae’r dulliau cadarn a threfnus a gafodd eu defnyddio wrth sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru yn golygu bod gan y corff sylfaen gadarn i barhau i gyflawni buddiannau ac ar gyfer mynd i’r afael â heriau’r dyfodol.

Dyna neges yr Archwilydd Cyffredinol mewn adroddiad sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ei sefydlu ym mis Ebrill 2013 wrth uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Mae gan y corff sy’n cyflogi hyd at 2,000 o bobol gyllideb flynyddol o £187 miliwn yn 2015-16.

Wrth greu’r corff, roedd darogan y byddai’n cynhyrchu buddiannau gwerth £158 miliwn yn ystod y 10 mlynedd gyntaf hyd at 2022-23, ac arbediad net gwerth £92 miliwn yn yr un cyfnod.

‘Heriau’

 

Mae’r adroddiad yn nodi’r heriau y bu’n rhaid i’r corff fynd i’r afael â nhw yn y cyfnod cychwynnol, gan gynnwys cyfnod trosglwyddo byr a gwahaniaethau yn nhrefniadau llywodraethu systemau gweithredu a diwylliannau sefydliadol y tri chorff etifeddiaeth.

Er bod CNC wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o ddelio ag effaith newidiadau deddfwriaethol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Bil yr Amgylchedd (Cymru), mae ansicrwydd ynghylch unrhyw gyllid ychwanegol a fydd ar gael i gyflawni cyfrifoldebau statudol newydd.

Mae’r corff hefyd yn wynebu heriau sylweddol mewn cynllunio ariannol a chyflenwi gwasanaethau yn y tymor canolig.

Chwe argymhelliad

 

Mae’r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru gynnig rhagor o eglurder ar drefniadau cyllido’r dyfodol, y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu ei weithgareddau ymgysylltu â staff a rhanddeiliaid i arddangos ei werth a’i effeithlonrwydd, a bod y corff yn sicrhau bod ei ymarferiad gwerthuso swyddi’n effeithiol.

‘Pwysau ar gyllido’

 

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas fod “gwersi positif i’w dysgu” o’r adroddiad.

“Mae gwersi positif i’w dysgu yn y dyfodol drwy edrych ar sefydlu a datblygiad cynnar CNC, a hynny i’r sefydliad eu hun ac wrth edrych ymlaen at ad-drefnu posibl mewn llywodraeth leol.

“Fodd bynnag, mae’r sefydliad yn dal i wynebu heriau sylweddol i drawsnewid ei hun ar gyfer y dyfodol.

“Mae fy adroddiad yn pwysleisio’r angen am ddeialog rhwng CNC, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gytuno ar flaenoriaethau cyflawni allweddol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yn enwedig yng nghyd-destun y pwysau ar gyllido.”

‘Dod o hyd i atebion gyda chyllideb lai’ – CNC

 

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Emyr Roberts: “Rydym yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad ac rydym wedi bod yn gweithio ers peth amser i fynd i’r afael â nifer o’r argymhellion a wnaed.

“Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu maint y newid a wnaed i gyfuno tri sefydliad i mewn i  un.

“Mae’r ffaith ein bod wedi gallu gwneud hyn tra’n cynnal gwasanaethau a rheoli sialensiau mawr fel clefyd llarwydd a llifogydd yn ganlyniad i waith caled ein staff a’u hymrwymiad drwy gyfnod o newid aruthrol, yn ogystal â mewnbwn a chefnogaeth gan bartneriaid a rhanddeiliaid.

“Rydym yn gwybod na allwn fod yn hunanfodlon, gan ein bod yn wynebu heriau mawr pellach.

“Mae gan CNC ddiben uchelgeisiol, ond mae’r sefyllfa ariannol yn anodd ac rydym yn gweithio’n galed i ddod o hyd i atebion gyda chyllideb lai.

“Mae’n amlwg y bydd angen i ni barhau â’n gwaith i drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar ble rydym yn ychwanegu’r gwerth mwyaf a gweithio gydag eraill i sicrhau bod Cymru yn llwyddiannus yn cyflawni’r saith amcan llesiant.

“Mae CNC ar flaen y gad yn trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus ac mae hyn yn gyfle gwych i rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu a’n profiadau ag eraill.”