Fe fydd ymarferwyr addysg yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw i ddysgu mwy am y cymorth fydd ar gael iddyn nhw gan Lywodraeth Cymru cyn i gwricwlwm newydd Cymru ddod i rym.
Yn ystod y cyfarfod, fe fydd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis a’r Athro Graham Donaldson, awdur yr adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yn rhoi diweddariad ar Fargen Newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y byd addysg.
Cyn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: “Rwyf wedi dweud yn glir o’r dechrau fy mod eisiau i’r Fargen Newydd gael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag ymarferwyr, ac mae digwyddiadau fel hyn yn rhan allweddol o’r cydweithio hwn.
“Yn ei hanfod, mae’r Fargen newydd yn cynnig i ymarferwyr yr hawl i fanteisio ar gyfleoedd dysgu o safon uchel. Yn gyfnewid am hyn, bydd gofyn iddynt ymrwymo i ddysgu a datblygu’n broffesiynol drwy gydol eu gyrfa.”
‘Proses raddol’
Ychwanegodd mai “proses raddol” fyddai cyflwyno’r newidiadau.
“Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da gyda’r Fargen Newydd. Rydym wedi cyflwyno’r Pasbort Dysgu Proffesiynol i helpu athrawon i gynllunio eu gyrfaoedd. Rydym hefyd wedi cyflwyno hawl gyfreithiol i gynnwys Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewn Cynlluniau Datblygu Ysgol.
“Yn ogystal, cyhoeddwyd Ysgolion Arloesi’r Fargen Newydd yn ddiweddar a fydd yn chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau bod y proffesiwn addysg yn cael ei gefnogi a’i ddatblygu i ddarparu cwricwlwm newydd i Gymru.
“Rwy’n cydnabod bod mwy o waith i’w wneud ac rwy’n galw ar y proffesiwn addysg i gyfrannu’n gadarnhaol at y broses hon drwy gyfrannu eu syniadau a’n helpu i ddod o hyd i atebion a fydd yn helpu’r system addysg i ddatblygu a gwella’n barhaus.”
‘Dysgu gwych yn dibynnu ar addysgu gwych’
Yn ôl yr Athro Graham Donaldson, dim ond trwy arfogi ymarferwyr addysg gyda’r sgiliau priodol y bydd modd cyflawni uchelgais drwy’r Fargen Newydd.
“Mae dysgu gwych yn dibynnu ar addysgu gwych. Byddwn ond yn gallu cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru os oes gan ein hymarferwyr addysg yr hyder a’r gallu i wneud hynny.
“Felly, bydd effaith y Fargen Newydd yn y pen draw yn hanfodol i’n llwyddiant yn y dyfodol.”
Mae Huw Lewis wedi dweud ei fod yn awyddus i’r cwricwlwm newydd fod ar gael i ysgolion erbyn 2018, a’i addysgu’n ffurfiol erbyn 2021.