Mae Alun Michael wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May
Mae oddeutu 4,700 o bobol wedi llofnodi deiseb er mwyn ceisio atal dyn sy’n cefnogi cyfreithloni treisio ar dir preifat rhag cynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Roedd disgwyl i Roosh V – neu Daryush Valizadeh – gynnal y cyfarfod yn y brifddinas fel rhan o gyfres o 165 o gyfarfodydd mewn 43 o wledydd er mwyn lledaenu ei farn.

Dydy manylion y cyfarfod arfaethedig ddim wedi cael eu datgelu, ond mae unrhyw un sydd am fynychu wedi cael cyfarwyddiadau i fynd i ran benodol o Gaerdydd a gofyn cwestiwn penodol fydd yn rhoi mynediad iddyn nhw i’r cyfarfod.

‘Difaterwch’ 

Yn ôl Roosh V, mae’r rhan fwyaf o achosion o dreisio yn digwydd rhwng dyn a dynes sydd eisoes yn adnabod ei gilydd.

Mae’n honni fod ymdrechion i atal dynion rhag treisio wedi arwain at ddifaterwch ymhlith menywod.

Mae’n dadlau hefyd nad yw menywod yn cymryd yr holl gamau priodol er mwyn amddiffyn eu hunain, ac nad ydyn nhw’n cymryd cyfrifoldeb os ydyn nhw’n cael eu treisio.

Yr ymgyrchwyr 38 Degrees sydd wedi cyflwyno’r ddeiseb, ac mae un o’r ymgyrchwyr, Deborah de Lloyd wedi galw ar Gomisiynydd Heddlu’r De, Alun Michael i atal y cyfarfod rhag mynd yn ei flaen.

Mae hi’n dadlau nad yw’r brifddinas yn ddiogel tra bod y cyfarfod yn cael ei ganiatáu.

‘Achosi aflonyddwch’ 

Mae Alun Michael wedi anfon llythyr at Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Theresa May yn gofyn iddi roi ystyriaeth i’r ddeiseb.

Dywedodd fod Roosh V yn “bwriadu achosi aflonyddwch” a’i fod yn annog pobol i ddod ynghyd “at ddibenion sydd yn amhleserus ac o bosib yn anghyfreithlon”.