Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwrthod cais cynllunio i adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd cyntaf y ddinas.
Y bwriad oedd adeiladu ar safle’r ysgol uwchradd Saesneg bresennol, Ysgol Uwchradd Dyffryn, gan godi dau adeilad – un ar gyfer yr ysgol Gymraeg, a’r llall ar gyfer yr ysgol Saesneg.
Roedd swyddog cynllunio’r awdurdod lleol wedi argymell y dylid gwrthod y cais yn dilyn pryderon a godwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â llifogydd ar y safle.
Ond, roedd ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn y sir wedi galw am fwrw ymlaen â’r cynllun, gan liniaru unrhyw beryglon posib o lifogydd, gan mai dyma oedd yr unig safle hyfyw ar gyfer adeiladu’r ysgol yn ôl y cyngor.
Roedd sawl swyddog addysg y sir, gan gynnwys y prif swyddog, James Harris, wedi dadlau’r achos dros adeiladu’r ysgol.
Yn ôl Gwasanaethau Democrataidd y cyngor saith aelod wnaeth bleidleisio yn erbyn, gan gynnwys Cadeirydd y pwyllgor Paul Huntley, gydag un yn ymatal a phedwar wedi pleidleisio dros y cynllun.
Ymateb Cyngor Casnewydd
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd: “Mae’n bwysig nodi fod dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor o hyd i ddarparu addysg uwchradd yn Gymraeg yng Nghasnewydd.
“Rhaid pwysleisio mai penderfyniad cynllunio yn unig yw hwn i beidio caniatâu i adeilad gael ei godi mewn lleoliad penodol.
“Dydy penderfyniad y pwyllgor cynllunio ddim yn atal Casnewydd rhag cael ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg barhaol, ac fe fydd y gwaith yn dechrau ar unwaith i ddewis lleoliad arall.
“Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn dal yn bwriadu darparu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion o fis Medi 2016 ymlaen, ar safle dros dro yn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon ym Mrynglas.”
Ychwanegodd y llefarydd fod y Cyngor yn bwriadu cyfarfod â Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer ysgol newydd mewn lleoliad arall yn y ddinas cyn gynted ag y bo modd.
Fe fydd cyfarfod yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd ddydd Gwener am 4.30 i esbonio’r camau nesaf ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, a chyfarfod i rieni plant Ysgol Uwchradd y Dyffryn brynhawn dydd Iau am 4.30 i drafod y datblygiadau diweddaraf.