Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw ar y Canghellor George Osborne i gynnal adolygiad annibynnol o bwrpas a dyfodol S4C.
Mewn llythyr at y Canghellor, fe ddywedodd David TC Davies fod angen cynnal “adolygiad annibynnol” er mwyn sicrhau “dealltwriaeth gyflawn o allu S4C i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o safon uchel cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach ynghylch ariannu’r sianel.”
Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor yn parhau i ymchwilio i ddarlledu yng Nghymru. Daw’r llythyr yn dilyn cyfarfod diweddar rhwng y pwyllgor ag Ian Jones, Prif Weithredwr S4C a Huw Jones Cadeirydd Awdurdod S4C.
‘Dealltwriaeth lawn a thrwyadl’
Yn ei lythyr, mynega David TC Davies bryderon am gynlluniau’r Llywodraeth i dorri grant S4C o £6.7 miliwn i £5 miliwn erbyn 2019-20.
Cyfeiria at bryderon y mae tystion wedi eu mynegi hefyd, gan ddweud “mae cynrychiolwyr o’r sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru wedi dweud wrthym y gallai hyn effeithio’n ddifrifol ar gyflwr y diwydiant yng Nghymru.”
“Rydym yn deall mai’r sianel hon yw’r unig ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus nad sy’n darparu cynnwys eglurder uchel (HD), ac mae 57% o’r oriau darlledu yn ailddarllediadau.”
Fe esboniodd y byddai adolygiad annibynnol yn cynnig “dealltwriaeth lawn a thrwyadl o’r anghenion cyllido digonol sydd ei angen fel yr unig sianel deledu Cymraeg drwy’r byd.”
“Wrth i gwestiynau godi am gynhwysedd y sianel i ddarparu cynnwys o safon uchel ar draws platfformau wrth i dechnoleg ddarlledu ddatblygu, rydym yn gofyn ichi ystyried cynnal adolygiad annibynnol i gynnwys a chwmpas y sianel.”