Mae grŵp pwyso wedi rhybuddio yn erbyn y posibilrwydd o gynnal refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin, gan ddweud y byddai’n “taflu cysgod dros yr etholiadau Cymreig.”

Yn ôl Stephen Brooks, Cyfarwyddwr Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru (ERS), mae “peryg o danseilio’r etholiadau sydd i ddod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.”

Fe ddaw’r awgrym wrth i’r cynnig drafft am ddiwygiadau i’r UE gael eu cyhoeddi heddiw gyda David Cameron yn eu croesawu. Gallai hynny arwain y ffordd at refferendwm ym mis Mehefin, yn ddibynnol ar ddod i gytundeb â 28 o arweinwyr cenedlaethol yr UE mewn uwch gynhadledd ym Mrwsel ar Chwefror 18 – 19.

‘Mwy o ddryswch’

“Mae pleidlais refferendwm UE mor fuan ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn beryg o danseilio’r etholiadau eu hunain – gan wyro’r ddadl oddi ar ei gwrs ac i ffwrdd o faterion sydd wedi’u datganoli,” meddai Stephen Brooks.

Fe esboniodd y byddai’r ddadl am Ewrop yn cyrraedd ei hanterth ym mis Ebrill a Mai, ac fe ddywedodd y byddai’n bosibl y byddai proses pleidleiswyr Cymru o ddewis eu llywodraeth nesaf yn cael ei daflu i’r cysgod.

“Byddai pleidlais Ewrop ym Mehefin yn ychwanegu mwy o ddryswch i ddiwrnod sydd eisoes yn brysur gydag etholiadau, a materion Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn cael eu codi.

“Nid yw etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael digon o sylw ar draws y DU fel y mae. Mae etholiadau Cynulliad Cymru a refferendwm Ewrop angen cyfle clir i gael eu lle ar wahân: gadewch i ni gael trafodaethau â ffocws gwirioneddol am y ddau benderfyniad pwysig drwy gynnal yr ymgyrchoedd ar adegau gwahanol.”

Carwyn Jones ‘wedi cael ei danseilio’

Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru hefyd wedi ymateb i adroddiadau y bydd y Blaid Lafur yn cefnogi cynnal refferendwm yr UE ym mis Mehefin drwy honni fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, “wedi ei danseilio’n llwyr” gan ei blaid ei hun.

Yr wythnos diwethaf, ymunodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru gydag arweinwyr y pleidiau eraill yng Nghymru – yn cynnwys Carwyn Jones – i lofnodi llythyr i’r Prif Weinidog David Cameron yn galw am bellter digonol rhwng etholiad y Cynulliad ar 5 Mai a refferendwm yr UE.

Dywedodd Jonathan Edwards  fod y cyhoeddiad gan bencadlys y Blaid Lafur yn San Steffan heddiw na fyddan nhw’n gwrthwynebu refferendwm ym mis Mehefin yn dangos nad oes gan Brif Weinidog Cymru “unrhyw hygrededd o gwbl” o fewn ei blaid ei hun, a’i bod hi’n bryd i Gymru ethol arweinydd fyddai’n mynnu parch gan San Steffan.

Dywedodd: “Unwaith eto, dyma achos anffodus ble mae Prif Weinidog Llafur Cymru yn cael ei danseilio’n llwyr gan fosys ei blaid yn San Steffan.

“Mae hyn yn datgelu diffyg parch llwyr Lafur tuag at etholiad democrataidd Cymru.

“Mae hi’n amlwg nad oes gan Brif Weinidog Llafur Cymru unrhyw hygrededd o gwbl o fewn ei blaid ei hun.”