Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad ynglŷn â chodi tal o bron i £400 y flwyddyn i gludo disgyblion chweched dosbarth i ysgol neu goleg.

Yn sgil gostyngiad yng Nghyllideb Ddrafft Cymru, mae rhagor o bwysau ar awdurdodau lleol i arbed arian, ac fe fyddai dileu cludiant ôl-16 yn arbed tua £500,000, meddai Cyngor Ceredigion.

Mae’r cyngor wedi cymeradwyo dechrau ar y broses ymgynghori yng nghyswllt y newidiadau arfaethedig i gludiant ôl 16 i ysgolion a cholegau, yn ogystal a’r argymhelliad i weithredu newid yn y ddarpariaeth seddau gwag.

Mae disgwyl i’r ymgynghoriad ddechrau ar 22 Chwefror a chau ar 21 Mawrth eleni.

Yn dibynnu ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, gallai fod disgwyl i bob disgybl 16-18 oed sydd am gludiant i ysgol neu goleg chweched dosbarth dalu £130 y tymor, sef £390 y flwyddyn.

Mae sedd ar gyfer disgybl ôl-16 yn costio £1,164 y flwyddyn i’r Cyngor ar gyfartaledd, a 773 o fyfyrwyr sy’n elwa ar hyn – felly amcangyfrifir bod cost y ddarpariaeth yn £900,514.

‘Effaith negyddol’ ar addysg Gymraeg

Mae mudiad RhAG – Rhieni dros Addysg Gymraeg, wedi beirniadu’r cynnig gan ddweud wrth golwg360 y byddai’n “gam yn ôl” i addysg Gymraeg y sir.

“Mae’n gosod cynsail peryglus i ddweud y gwir, rydyn ni’n ymwybodol bod cynghorau sir yn edrych am ffyrdd i wneud arbedion cyflym, ac mae meysydd fel cludiant ôl 16 sy’n anstatudol yn cynnig ei hun fel opsiwn hawdd i fynd amdano fo,” meddai Ceri Owen, swyddog datblygu RhAG.

“Ond o wneud hynny, mae camau peryglus yn cael eu gwneud a fydd yn cael effaith negyddol ar addysg Gymraeg.

“Fe fyddai RhAG yn dadlau bod mynediad i addysg yn gwbl hanfodol.”

Dywedodd hefyd y byddai’r cynlluniau yn rhoi rhai teuluoedd, llai cefnog dan anfantais o gymharu â rhai eraill ac yn gwneud addysg yn rhywbeth sy’n “ddibynnol ar gyflwr economaidd” unigolion a theuluoedd.