Andrew Davies
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn camera o sir Gaerfyrddin a weithiodd ar amrywiaeth o raglenni a chyfresi S4C dros bedair degawd.
Roedd Andrew Davies, 52 oed, yn adnabyddus am ei waith ffilmio ar gyfer rhaglenni Newyddion S4C, Wales Today, Cefn Gwlad a Ffermio. Fe fu farw ddydd Llun, 1 Chwefror 1, ar ôl brwydr hir â chanser.
Roedd wedi bod yn cael gofal yn hosbis Tŷ Gwyn ers tair wythnos.
Câi ei adnabod fel Andrew ‘Pwmps’ Davies, oherwydd arferai ei rieni redeg gorsaf betrol a siop y pentref yn Llanpumsaint am nifer o flynyddoedd.
Fe symudodd ef a’i wraig – yr actores Llio Silyn Davies i fyw i Landeilo wedyn er mwyn magu eu pedwar o blant, ac yn ddiweddarach i Rydaman.
Roedd y teulu’n adnabyddus yng Nghaerfyrddin hefyd, wedi iddo gymryd yr awenau i redeg siop lyfrau Cymraeg y dref, sef Siop y Pentan, wedi i’w fam weithio yno am 30 o flynyddoedd.
‘Artistig a chelfydd iawn’
Dechreuodd ei yrfa ym myd y cyfryngau fel technegydd sain, cyn troi’n hwyrach i fod yn ddyn camera.
Fe fu’r cyn-ohebydd newyddion Alun Lenny yn cydweithio ag ef ar rai o brif straeon newyddion y 1980au, gan gynnwys streic y glowyr, y protestio dros gwotâu llaeth a’r ymgyrch i losgi tai haf.
“Andrew oedd y dyn camera gorau wnes i weithio gydag e yn greadigol,” meddai Alun Lenny.
“Roedd yn ddyn camera artistig a chelfydd iawn ac yn dod â dimensiwn newydd i raglenni Newyddion ar ôl gweithio ar raglenni eraill”.
‘Cymeriad a chwmni da’
Fe ddywedodd y Cyfarwyddwr gyda chwmni Telesgop, Dyfrig Davies ei fod wedi colli ffrind wedi i’r ddau dreulio blynyddoedd yng nghwmni ei gilydd yn Llandeilo.
“Oedd e’n fwy na chydweithiwr, oedd e’n ffrind, yn gymeriad ac yn gwmni da.”
Fe fu’n cydweithio ag Andrew Davies ar nifer o raglenni gan gynnwys Ffermio a Hel Straeon.
“Oedd e’n wych gyda phobol, oedd e’n gallu siarad a chymryd diddordeb ynddyn nhw sy’n wych pan fydden ni’n mynd o gwmpas yn ffilmio.”
Fe ddywedodd hefyd ei fod yn llawn syniadau creadigol ac yn barod i gyfrannu bob amser.
“Oedd e’n ddyn camera creadigol iawn, ac yn barod i fynd y filltir ecstra bob tro. Os oedd angen codi’n gynnar i gael shots o’r wawr, yna byddai Andrew yn ei wneud, doedd dim angen gofyn dwywaith.
“Fel cyfarwyddwr, fe fu’n llawer o help imi ar y dechrau, wrth iddo gynnig syniadau bach gwahanol.”
“Dy’n ni wedi colli rhywun oedd mor barod i gyfrannu, doedd e byth eisiau bod y ceffyl blaen, oedd e’n gyfrannwr tawel a dibynadwy.”
‘Diddordeb naturiol mewn pobl’
Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys: “Roedd Andrew yn gyfrannwr allweddol i ystod o gyfresi S4C ers cyfnodau cynharaf y sianel. Roedd yn gweithio ar bob math o raglenni, yn enwedig rhaglenni dogfen a rhaglenni plant, ac roedd ganddo ddiddordeb naturiol mewn pobl ac roedd ganddo reddf am stori dda.
“Mae ei frwdfrydedd a’i greadigrwydd fel dyn camera wedi ysbrydoli cenhedlaeth o bobl i weithio yn y diwydiant ffilm a theledu. Bydd yn golled fawr i’r diwydiannau creadigol a’r gymuned leol glos. Hoffwn gydymdeimlo a’i deulu yn y cyfnod anodd hwn.”