Llun o Ysgol Glancegin, Bangor
Mae’r cynllun i adeiladu ysgol newydd Glancegin ym Mangor gam yn nes ar ôl cael cadarnhad gan y cwmni adeiladu.
Cwmni Wynne Construction o ogledd Cymru sydd wedi sicrhau’r prif gytundeb i’w hadeiladu, ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn ystod yr haf.
Mae’r prosiect gwerth £5.1 miliwn wedi ei gyllido rhwng Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, ac mae disgwyl y bydd yr ysgol yn ardal Maesgeirchen ar agor i ddisgyblion erbyn Medi 2017.
“Fel Cyngor, rydan ni yn awyddus i wneud yn siŵr fod plant mewn cymunedau ar draws y sir, lle bynnag maen nhw’n byw, yn gallu cael mynediad at yr adnoddau addysgol gorau posib,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas ac Aelod o Gabinet Addysg Cyngor Gwynedd.
‘Cefnogi’r economi leol’
Fe groesawodd y Cynghorydd Dafydd Meurig y datblygiad, gan ddweud fod y cyngor wedi cydweithio â’r cwmni Wynne Construction ar sawl achlysur.
“Gwyddom o brofiad fod y cwmni’n rhannu ein hymrwymiad i gadw cymaint sy’n bosibl o fudd prosiectau o’r fath yn yr economi leol, wrth iddyn nhw gyflogi cymaint o gontractwyr a staff lleol ar eu prosiectau a chefnogi busnesau lleol yn eu cadwyni cyflenwi.”
Fe ddywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwyr y cwmni adeiladu eu bod yn falch o ennill y cytundeb.
“Mae ein profiad helaeth yn y maes yn golygu ein bod yn gallu cyflwyno cynllun o safon uchel, ac i gryfhau ein cadwyn cyflenwi leol a chefnogi economi gogledd Cymru yn ystod y broses adeiladu. Byddwn yn cynnwys y gymuned a rhan-ddeiliad allweddol er mwyn sicrhau amrediad o fuddiannau cymunedol i gefnogi’r buddsoddiad yn y prosiect.”