Des James
Mae’r Crwner yng nghwest y milwr ifanc o Langollen a fu farw ym marics y fyddin mwy nag 20 mlynedd yn ôl wedi dweud na fydd yn ystyried “diwylliant o gam-drin rhywiol.”

Cafwyd hyd i Cheryl James, 18 oed, gyda bwled yn ei phen ym Marics Deepcut, Surrey yn 1995.

Roedd hi’n un o bedwar o filwyr ifanc yn eu harddegau i farw yno dros gyfnod o saith mlynedd ymysg honiadau o fwlio a cham-drin.

Wrth agor y cwest yn Llys y Crwner Woking, Surrey y prynhawn yma, fe ddywedodd y Crwner Brian Barker QC na fyddai’n ystyried “diwylliant o gam-drin rhywiol.”

Fe alwodd y teulu am ehangu sgôp y gwrandawiad i gymryd i ystyriaeth tystiolaeth newydd fyddai’n taflu goleuni am gyflwr meddwl Cheryl James.

 ‘Ymchwiliad llawn, agored a di-ofn’

“Nid yw hwn yn ymchwiliad cyhoeddus i’r diwylliant yn Deepcut yn ystod canol y 1990au,” meddai’r Crwner Brian Barker wrth y cwest.

“Dylai’r cwest fod yn ymchwiliad llawn, agored a di-ofn i farwolaeth Cheryl ac nid yw’n golygu nad oes dim terfyn i’r sgôp.”

Fe esboniodd y gallai tystiolaeth y gallai’r Preifat Cheryl James fod wedi’i cham-drin yn rhywiol adeg ei marwolaeth gael ei ystyried yn y cwest.

Ond, fe esboniodd nad yw o fewn sgôp y cwest i ystyried “a oedd diwylliant o gam-drin rhywiol ym Marics Deepcut, ynghyd â thriniaeth amhriodol rywiol o recriwtiaid benywaidd.”

Fe ddywedodd Brian Barker y byddai ei ddyfarniad yn parhau o dan arolygiaeth “wrth i’r dystiolaeth ddatblygu”.

Mae disgwyl i fwy na 100 o bobl roi tystiolaeth yn ystod y cwest. Y cyntaf i roi tystiolaeth fydd Des James, tad Cheryl James.

‘Diwylliant o ecsbloetio rhywiol’

Fe ddaeth tystiolaeth newydd i’r fei fis diwethaf a oedd yn awgrymu fod Cheryl James wedi cael ei hecsbloetio’n rhywiol gan uwch swyddogion ychydig cyn ei marwolaeth.

Yn ôl y sefydliad hawliau dynol sy’n cynrychioli’r teulu, Liberty, mae o leiaf 10 o dystion wedi cyflwyno honiadau o ddiwylliant o ecsbloetio rhywiol yn Deepcut.

Bu farw Sean Benton, James Collinson a Geoff Gray o anafiadau gynnau ym Marics Deepcut rhwng 1995 a 2002.

Yn 2014 roedd barnwyr yn yr Uchel Lys wedi gorchymyn cwest newydd i farwolaeth Cheryl James ar ôl diddymu rheithfarn agored a gafodd ei gofnodi ym mis Rhagfyr 1995.

Cafodd ei chorff ei ddatgladdu ym mis Awst y llynedd a chafodd archwiliad post mortem ei gynnal gan ddau arbenigwr.

Mae’r gwrandawiad i gwest y Preifat Cheryl James wedi’i ohirio tan ddydd Iau er mwyn caniatáu i dystiolaeth fforensig a gwyddonol gael ei adolygu gan deulu Cheryl James, Heddlu Surrey a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fe fydd tystiolaeth wyddonol arall a oedd i’w glywed yr wythnos hon hefyd yn cael ei ystyried yn ddiweddarach yn y broses.

Wedi’r gwrandawiad, fe ddywedodd Emma Norton, cyfreithiwr ar ran Liberty:

“Mae’r teulu’n teimlo rhyddhad y bydd unrhyw honiadau o gam-drin rhywiol yn ymwneud â Cheryl yn cael eu hymchwilio’n briodol.”

Mae disgwyl i’r cwest barhau am saith wythnos.