Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a’r elusen ddigartrefedd The Wallich yn galw am weithredu i fynd i’r afael â digartrefedd dros y gaeaf.

Ar ddiwedd mis Medi eleni, roedd amcangyfrif fod 135 o unigolion yn cysgu ar y stryd ledled Cymru.

Roedd 11,228 o unigolion mewn llety dros dro yng Nghymru ar ddiwedd y mis hwnnw,.

Roedd 3,409 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed.

Ar draws Cymru a Lloegr, mae’r gyfradd troi allan heb fai, lle mae tenantiaid yn cael eu gorfodi allan o’u cartrefi pan fydd y landlord yn penderfynu gwerthu allan, ar ei uchaf ers saith mlynedd.

Mae Jane Dodds yn galw ar y genedl i fod yn “dosturiol tuag at y rhai sydd angen ein cymorth”.

Daw hyn yn dilyn marwolaeth y trydydd person digartref yn y brifddinas eleni.

‘Torcalonnus’

“Mae’n dorcalonnus clywed rhai o’r straeon hyn gan bobol sydd wedi cael eu gorfodi allan o’u cartrefi heb unrhyw fai arnyn nhw ei hunain,” meddai Jane Dodds.

“Mae’n arbennig o dorcalonnus clywed y straeon hyn yn dod gan blant, yn ddiniwed o’r difaterwch sydd wedi eu gorfodi nhw a’u teuluoedd i geisio cymorth o rywle arall.

“Mae’n wir fod cynghorau ledled Cymru yn wynebu argyfwng cyllid wedi’i achosi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â mwy o ddiddordeb mewn gwastraffu arian ar gynlluniau anghyfreithlon na rhoi arian i awdurdodau lleol.

“Ond mae angen i ni weld rhywfaint o arloesi gan ein cynghorau lleol, fel y gallwn oresgyn y rhwystrau sydd o’n blaenau gan y Torïaid a dechrau darparu cartrefi i bobol ar gyflymder ac ar raddfa.

“Y tu ôl i bob ystadeg ar ddigartrefedd, mae person neu deulu yn crio am help.

“Mae’n rhaid i ni fel cenedl fod yn dosturiol tuag at y rhai sydd angen ein cymorth, nid yn unig yn ystod cyfnod yr ŵyl ond drwy gydol y flwyddyn.”

‘Degawdau o danfuddsodi mewn tai’ ar fai

“Rydym wedi bod yn rhybuddio am y cynnydd brawychus yn y nifer o bobol sy’n wynebu digartrefedd yng Nghymru ers y pandemig ac yn galw am weithredu ar frys,” meddai Thomas Hollick, Cydlynydd Polisi a Materion Cyhoeddus yr elusen ddigartrefedd a chysgu ar y stryd, The Wallich.

“Mae degawdau o danfuddsoddi mewn tai wedi golygu nad oes digon o gartrefi addas i gyfarfod anghenion cymunedau ar draws Cymru, ac mae cystadleuaeth ddwys yn golygu y gall landlordiaid enwi eu pris.

“Mae angen i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru anghofio am eu gwahaniaethau a chanolbwyntio ar weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai nawr.

“Mae’r Wallich yn galw am fwy o gymorth ariannol i helpu pobol i aros yn eu cartrefi, ac mae’n rhaid gwneud pob ymdrech i gynyddu’r cyflenwad o eiddo fforddiadwy.

“Mae hyn yn golygu dod ag eiddo gwag ac wedi’i thanfeddiannu yn ôl i ddefnydd, yn ogystal ag adeiladu mwy o lety sy’n dod o dan y Lwfans Tai Lleol.

“Yn y tymor byr, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gynyddu’r Grant Cymorth Tai yn unol â chwyddiant, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n gallu darparu cymorth priodol i aelwydydd sydd mewn llety a gwestai brys ar hyn o bryd.

“Os na fydd HSG yn cynyddu mewn termau real, gallai’r sector digartrefedd ddymchwel, gan adael pobol mewn mwy o berygl o ddigartrefedd ar y stryd, a’r bygythiad difrifol mae’n achosi i’w hiechyd corfforol a meddyliol.”

Richard O’Brien

Daw galwad y Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn marwolaeth dyn digartref yng Nghaerdydd ddiwedd mis diwethaf (Tachwedd 27).

Richard O’Brien oedd y trydydd person digartref i farw yn y brifddinas eleni.

Daeth Richard, sy’n adnabyddus fel Paddy ac weithiau Limerick hefyd, yn sâl wrth gysgu wrth ddrws un o’r siopau ar brif strydoedd siopa Caerdydd.

Fe wnaeth Heddlu’r De gadarnhau bod dyn wedi marw, wedi i ambiwlans cael ei alw i Heol y Frenhines yn ystod oriau man y bore.

Mae ei ffrindiau a thrigolion y brifddinas wedi bod yn talu teyrnged iddo wrth adael blodau a chardiau ar Heol y Frenhines.