Bydd Llyfrgell Caerffili yn croesawu banc Halifax ar gyfer gwasanaeth bancio wythnosol sy’n dechrau heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 7).

Bydd Halifax yn dod â’u gwasanaeth Bancio Cymunedol i’r Twyn bob dydd Iau rhwng 9.30yb a 3.30yp.

Fe wnaeth y cwmni gau eu cangen yng nghanolfan siopa Castle Court yn y dref ddiwedd mis Tachwedd, o ganlyniad i’r hyn maen nhw’n ei alw’n llai o alw ymhlith cwsmeriaid.

Dywed uwch gynghorydd fod y cam hwn yn dilyn cyhoeddiad Barclays eu bod nhw hefyd yn cau eu cangen yn y Coed Duon, a bydd arweinwyr Cyngor Caerffili’n cyfarfod â’r cwmni ddydd Llun (Rhagfyr 11) i drafod y penderfyniad.

“Gyda banciau’n cau ledled y wlad, rydyn ni’n gwybod fel Cyngor fod rhaid i ni gamu i mewn a gwneud rhywbeth na fydden ni fel arfer yn ei ystyried,” meddai Jamie Pritchard, dirprwy arweinydd y Cyngor.

“Ein nod bob amser yw cefnogi trigolion sy’n cael eu heffeithio gan fanciau’n cau.”

‘Gweithio’n galed’

“Mae ein tîm gwasanaethau llyfrgell wedi gweithio’n galed iawn i ymateb pan fo banciau wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau,” meddai’r Cynghorydd Carol Andrews, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Addysg a Chymunedau.

“Mae trigolion yn cael eu heffeithio gan gau [gwasanaethau] o’r fath, felly unwaith eto mae’r Cyngor yn camu i mewn gyda chefnogaeth.”

Yn ôl Halifax, mae eu cynlluniau bancio cymunedol “yn darparu gwasanaethau bancio a chefnogaeth â chyfrifon i gwsmeriaid sydd efallai heb gangen leol”.

Bydd y Cynghorydd Jamie Pritchard a Sean Morgan, arweinydd y Cyngor, yn cyfarfod â chynrychiolwyr Barclays ar Ragfyr 11 i drafod cau cangen y Coed Duon.

Mae gwahoddiad i gynghorwyr lleol fynd i’r cyfarfod.