Bydd y rheolau mewnfudo newydd sy’n dod i rym heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 6) yn rhwygo teuluoedd ac yn gorfodi dyn i ddewis rhwng ei wraig a’i wlad, yn ôl Hywel Williams.

Fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig gafodd eu cyhoeddi ddechrau’r wythnos, bydd yr isafswm incwm gorfodol er mwyn i deulu gael fisa yn codi i £38,700 – i fyny o’r £18,600 presennol.

Yn ystod Cwestiynau Cymru yn San Steffan, tynnodd Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Arfon sylw at achos Daniel Griffith, sy’n byw yn ei etholaeth ac a fydd yn priodi ei bartner o Frasil y flwyddyn nesaf.

Maen nhw’n bwriadu ymgartrefu yng Nghymru, ond mae hi “ymhell o fod yn glir ar hyn o bryd a fyddan nhw’n medru gwneud hyn o dan y rheolau incwm newydd”.

Yn wahanol i aelodau seneddol sy’n ennill digon er mwyn cyrraedd y trothwy, fydd nifer fawr o bobol yng Nghymru ddim yn bodloni’r gofynion.

O’r gwanwyn, bydd y llywodraeth hefyd yn cynyddu’r trothwy incwm ar gyfer gweithwyr o dramor gan bron i 50% – o £26,200 i £38,700.

Cyflog cyfartalog Gwynedd, sy’n cynnwys etholaeth Hywel Williams yn Arfon, yw £30,524.

‘Chwyddiant, llymder ac anhawster pellach’

“Mae gwasanaethau Cymru’n cael eu hamddifadu gan chwyddiant a llymder, ac rŵan maen nhw’n wynebu’r anhawster pellach wrth recriwtio’r mewnfudwyr â sgiliau sydd wedi bod mor hanfodol wrth ofalu am ein poblogaeth sy’n heneiddio, gan fod disgwyl i’r trothwy teuluol godi i £38,700,” meddai Hywel Williams.

“Mae hynny £8,000 yn uwch na’r cyflog cyfartalog yng Ngwynedd, gyda nifer o’m hetholwyr yn ennill llai o dipyn.

“All y Gweinidog ddweud wrtha i pa dystiolaeth mae hi, neu yn hytrach yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi’i rhoi i’r Ysgrifennydd Cartref ynghylch effeithiau’r trothwy newydd ar wasanaethau cyhoeddus?”

Atebodd Fay Jones, Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cynnal “trafodaethau cyson â chydweithwyr yn y Cabinet ar y mater hwn”, ond mi wnaeth hi amddiffyn y mesurau gafodd eu cyflwyno’r wythnos hon.

Effaith ar “bobol go iawn, teuluoedd go iawn, pobol go iawn sy’n derbyn gofal’

Yn ei ail gwestiwn, tynnodd Hywel Williams sylw at achos ei etholwr.

“Bydd y newid hwn yn y trothwy cyflog yn effeithio ar bobol go iawn, teuluoedd go iawn, pobol go iawn sy’n derbyn gofal,” meddai.

“Yn benodol, fy etholwr Daniel Griffith sydd i fod i briodi ei bartner o Frasil y flwyddyn nesaf.

“Maen nhw’n bwriadu ymgartrefu yng Nghymru.

“Mae hi ymhell o fod yn glir ar hyn o bryd a fyddan nhw’n medru gwneud hyn o dan y rheolau incwm newydd.

“Yn wahanol i’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog, ac os caf fi ddweud pawb arall yn y Siambr hon, pam ddylai Daniel orfod dewis rhwng ei wraig a’i wlad?”

Fe wnaeth Fay Jones wrthod ateb y cwestiwn, gan ddweud mai polisïau Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru sydd yn “anfantais” i Gymru.