Bydd cyfle i drigolion Machynlleth weld y cynlluniau ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen mewn digwyddiad galw heibio yr wythnos nesaf.

Mae Cyngor Sir Powys am adeiladu ysgol newydd i Ysgol Bro Hyddgen, fel rhan o’u rhaglen Trawsnewid Addysg.

Bydd yr ysgol newydd, fydd â lle i 540, yn cael ei hadeiladu ar safle presennol Ysgol Uwchradd Bro Hyddgen, i gymryd lle’r adeiladau cynradd ac uwchradd presennol.

Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio am y datblygiad arfaethedig yn mynd rhagddo, sy’n galluogi pobol i gynnig sylwadau am y cynlluniau cyn bod cais cynllunio yn cael ei gyflwyno.

Fel rhan o’r broses hon, caiff sesiwn galw heibio ei chynnal ar gampws uwchradd yr ysgol ddydd Mawrth nesaf (Rhagfyr 12), rhwng 3.30yp a 7yh, lle bydd cyfle i adolygu a thrafod y cynlluniau ar gyfer yr adeilad fydd ar agor i gymuned yr ysgol gyfan a’r cyhoedd.

Cyfleusterau ac adnoddau

Ar ôl cael ei adeiladu, bydd yr adeilad newydd yn cynnwys:

  • cyfleusterau’r blynyddoedd cynnar
  • ardaloedd ar gyfer addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16
  • ystafell gymunedol
  • canolfan anghenion dysgu ychwanegol
  • ardaloedd llesiant
  • ardaloedd awyr agored
  • maes chwarae 3G

Bydd gan yr adeilad nodweddion amgylcheddol ardderchog, meddai Cyngor Sir Powys, a hon fydd adeilad ysgol Passivhaus gyntaf y cyngor, â’r nod o gyflawni Sero Net ar waith â tharged o lai na 600kg/CO2m2 o garbon ymgorfforedig.

Mae disgwyl i’r ysgol newydd agor i ddisgyblion yn 2026.

“Bydd adeilad newydd Ysgol Bro Hyddgen yn darparu cyfleusterau modern i’n disgyblion a’n staff addysgu, a’u helpu i ddarparu mwynhad a bodlondeb ym mhrofiad addysg pawb,” meddai’r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu.

“Mae’r digwyddiadau galw heibio hyn yn darparu cyfle grêt i bawb yng nghymuned yr ysgol ac aelodau o’r cyhoedd i weld y cynlluniau cyffrous hyn, a fydd yn trawsnewid addysg i ddysgwyr ym Mhowys.”

Darllenwch ddogfennau’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio, sy’n cynnyws manylion ynghylch sut i wneud sylwadau am y cynlluniau arfaethedig.