Gall cyfnod y Nadolig fod yn anodd ar gyfer y rheiny sy’n gaeth i alcohol, yn ôl Wynford Ellis Owen.
Mae’r actor wedi bod yn agored iawn am ei alcoholiaeth ei hun, wedi iddo gychwyn ar ei daith adferiad yn 1992.
Yn 2011, fe helpodd i sefydlu’r grŵp Stafell Fyw ar gyfer unigolion eraill sy’n gaeth.
Dywed ei bod yn “hawdd iawn” disgyn i mewn i arferion drwg gydag alcohol dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd.
“Mae o’n cael ei normaleiddio i’r fath raddau fel ei bod hi’n abnormal i beidio bod yn yfed o’r crud i’r bedd, mewn gwirionedd,” meddai wrth golwg360.
“Mae fel nad oes posib dathlu unrhyw ŵyl heb fod alcohol yn rhan o’r hafaliad.
“Beth sy’n ei wneud o’n waeth o gwmpas y Nadolig ydi bod pawb, rywsut, i weld yn manteisio ar y cyfle, bod yfed yn fwy normal o gwmpas y Nadolig.”
Cam-drin alcohol “bob amser” yn effeithio ar blant
Yn ôl Wynford Ellis Owen, mae’r rheiny sy’n gaeth i alcohol yn dueddol o’i gadw’n gyfrinach oddi wrth eraill, ac weithiau oddi wrthyn nhw eu hunain.
Ond dywed fod y Nadolig yn rhoi cyfle iddyn nhw ddod â’u halcoholiaeth allan ac yfed “fel pawb arall”.
Mae hefyd yn bryderus ynghylch effaith gweld cam-drin alcohol o’u cwmpas ar blant a phobol ifanc.
“Lle bynnag mae yna gamddefnydd o alcohol, mae’r plant bob amser yn cael eu niweidio,” meddai.
“Nid efallai, nid hwyrach, nid mewn rhai achosion, ond bob amser.
“Felly, mae jyst atgoffa pobol i fod yn ymwybodol o hynny, bod eu hymddygiad nhw’n cael effaith negyddol ac andwyol o bosib ar y plant, yn gam pwysig ymlaen.”
Ychwanega fod alcoholiaeth o fewn aelwydydd yn gallu arwain at ymddygiad obsesiynol gan blant, wrth iddyn nhw gadw cofnod o faint o alcohol mae eu rhieni yn ei yfed a phryderu am y canlyniadau.
‘Byd sy’n boddi mewn alcohol’
Dywed Wynford Ellis Owen nad yw’r heriau sy’n wynebu’r rheiny sy’n adfer o alcoholiaeth o reidrwydd yn unigryw i gyfnod y Nadolig, gan eu bod nhw’n “gorfod byw mewn byd sy’n boddi mewn alcohol”.
Fodd bynnag, dywed fod pwysau ychwanegol i fod yn fwy gwyliadwrus dros y Nadolig, wrth i alcohol ddod yn fwyfwy amlwg o’u cwmpas.
“Fedran nhw ddim newid y byd, mae’n rhaid iddyn nhw newid nhw eu hunain,” meddai am bobol sy’n adfer o alcoholiaeth.
“O gwmpas y Nadolig, mae gofyn iddyn nhw fod yn arbennig o ofalus.
“Rhaid i chi fod yn ymwybodol eich bod chi mewn lle peryglus, yn ffau’r llewod os liciwch chi.
“Ac mae’n rhaid i bobol fatha fi mentro i ffau’r llewod.”
Er ei fod yn codi heriau, dywedodd Wynford Ellis Owen nad oes dim byd o’i le â phobol yn mwynhau alcohol dros gyfnod y Nadolig, cyn belled â’i fod yn cael ei wneud mewn ffordd gymhedrol a synhwyrol nad yw’n niweidio neb arall.