Mae’r penderfyniad i gau siop WHSmith arall yng Ngwynedd yn newyddion “sobor”, yn ôl un o’u cwmseriaid yng Nghaernarfon.

Mae’r cwmni wedi cau siopau ym Mae Colwyn a Bangor dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae ganddyn nhw un siop yn weddill yn y sir.

Ond maen nhw bellach wedi cyhoeddi y bydd honno ar Stryd Llyn yn cau fis Chwefror.

“Nid ydym bellach yn gallu parhau i fasnachu’n hyfyw o’r lleoliad hwn ac mae’r penderfyniad anodd wedi’i wneud i gau’r siop ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf,” meddai llefarydd ar ran WHSmith.

“Hoffem ddiolch i’n holl gwsmeriaid am eu cefnogaeth ac am siopa gyda ni.

“Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar am ymrwymiad ein cydweithwyr yn y siop y byddwn yn eu cefnogi gyda’r trawsnewid hwn ac adleoli i siopau cyfagos, lle bo modd.”

Dirywiad canol trefi

Fe fu golwg360 yn siarad ag ambell gwsmer i gasglu eu barn am y penderfyniad i gau’r siop.

Mae Marlene Jones yn credu ei bod yn “sobor” fod y siop yn cau, ac mae hi’n poeni am ddirywiad canol trefi’n gyffredinol.

“Mae’n sobor ofnadwy bod WHSmith yn cau,” meddai.

“Mae yna sêl cau lawr yna rŵan.

“Rwy’n credu bod canol trefi wedi dirywio braidd yn y blynyddoedd diwethaf.”

‘Diwedd cyfnod’

Fel un sydd bellach yn ei chwedegau, mae Wendy Jones o Gaernarfon yn edrych yn ôl ag atgofion braf o’r siop, gan ddweud ei fod yn “ddiwedd cyfnod”.

“Mae WHSmith wedi bod yn gwerthu llyfrau i genedlaethau yn lleol sydd wedi oedi o flaen y silffoedd llyfrau,” meddai.

“Ar un adeg, roedd yna nifer o siopau llyfrau yn y dref, yr oes cyn y cyfrifiadur, e-lyfrau, tabledi, ar y ffôn…

“A dyna le’r oedd pawb yn heidio i gael fountain pen a set geometry a phren mesur.

“Roedd nifer o fechgyn lleol wedi’u cyflogi i ddosbarthu papur newydd o gwmpas yr ardal.

“Mae cau WHSmith fel diwedd cyfnod.

“Diolch i’r cwmni am eu presenoldeb cyhyd.”

‘Effaith reit drwm ar bobol Caernarfon’

Yn ôl Catrin Carrington Rees, mae’n “bechod” fod y siop yn cau ei drysau oherwydd ei bod “o safon reit uchel”.

“Mae’n cael effaith reit drwm ar bobol Caernarfon, lle’r oedd pobol yn gwybod am y cwmni ers blynyddoedd,” meddai.

“Roeddem yn gwybod beth roedden nhw yn ei werthu, a phrisiau.

“Mae’r dref yn mynd i lawr braidd, efo un o’r cwmnïau gorau yn mynd allan o’r stryd.

“Roedd rhai llyfrau yn ddau am £20 – rhai reit newydd.

“Roeddwn yn mynd yno i brynu cylchgronau, weithiau’r loteri ac weithiau cerdyn pen-blwydd ac roeddwn weithiau yn cael cerdyn Sul y Mamau a Sul y Tadau yno.

“Roeddwn yn hoff o weld pa lyfrau newydd sydd wedi dŵad allan yn newydd.”

‘Siop wag arall’

Hefyd yn bryderus mae’r Cynghorydd Dewi Jones, sy’n cynrychioli ward Peblig yn y dref.

Er nad yw’n gweld bai ar y siop oherwydd rhesymau cystadleuaeth, mae’n gweld siop wag arall ar y stryd fawr yn “broblemus”.

“Mae o’n biti bod WHSmith yn cau,” meddai wrth golwg360.

“Bydd gennym ni siop wag arall yn Stryd Llyn.

“Hefyd, mae’n un adnodd yn llai yn y dref ar gyfer pobol Caernarfon.

“Mae hi bob amser yn siom gweld busnes yn cau ac yn gadael y dref.

“Mae rhywbeth sydd yn gadael a rhywbeth sydd yn lleihau yn broblemus, ac yn rhywbeth sy’n fy mhryderu.”

O’r Stryd Fawr at wefannau ar-lein

Mae Dewi Jones yn teimlo bod y symudiad o’r Stryd Fawr at wasanaethau ar-lein wedi cael effaith fawr ar fusnesau’r dref.

“Rwy’n meddwl bod yna nifer o heriau sydd yn wynebu siopau’r Stryd Fawr – mae yna dwf wedi bod yn y bobol sy’n siopa ar-lein,” meddai.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae archfarchnadoedd yn cynnig mwy o bethau.

“Mae hwnna’n rywbeth sy’n creu problem hefyd, o ran gwerthu nwyddau swyddfa, y math yna o beth.

“Maen nhw’n gystadleuaeth arall.

“Rwyt ti wedi cael busnesau eraill yn agor yn y dref yn y blynyddoedd diwethaf hefyd sydd yn cystadlu efo WHSmith.

“Pan fo gan bobol lai o arian yn eu poced, efallai bo nhw’n gorfod ceisio gwario’n fwy doeth; maen nhw’n chwilio am y fargen orau.”