Mae Cymdeithas Iddewig Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi datganiad yn honni bod rhai myfyrwyr wedi’u gadael yn “crynu yn eu seddi” yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr wythnos ddiwethaf.
Mae eu datganiad yn cyfeirio at fideo, sydd hefyd wedi ei rhannu ar-lein, o fyfyriwr yn rhoi ei farn ar yr alwad am gadoediad yn Gaza.
Yn ystod ei araith, dywedodd ei bod yn “bwysig amddiffyn hawl Israel i amddiffyn ei hun yn erbyn Hamas”.
Ychwanegodd fod “Hamas wedi dangos diffyg ystyriaeth i aneddiadau heddychlon trwy ddatblygu eu gweithrediadau milwrol mewn ardaloedd sifil, a gwrthod cydnabod y posibilrwydd o ddatrysiad dwy wladwriaeth”.
Wrth ymateb i’w sylwadau, bu aelodau’r gynulleidfa yn bŵio ac yn gweiddi arno i adael y llwyfan.
‘Annheg’
Mewn datganiad, mae’r Gymdeithas Iddewig yn honni eu bod nhw wedi’u trin yn annheg, gan ddweud y cafodd “lleisiau Iddewig eu tawelu”.
“Cawsom ni, y myfyrwyr Iddewig oedd am siarad ar y cynnig hwn, ein dychryn, ein cam-drin a’n haflonyddu,” meddai llefarydd.
“Cawsom ein gadael yn crynu yn ein seddi.
“Cafodd dau fyfyriwr Iddewig byliau o banig.
“Cafodd llais un myfyriwr, aeth i’r llwyfan i wneud yr achos dros heddwch, ei foddi a bu’n rhaid ei hebrwng o’r ddadl er mwyn ei ddiogelwch ei hun.”
Ychwanegodd fod myfyrwyr Iddewig “yn ofni am ein diogelwch ar y campws” yn dilyn y cyfarfod.
“Mewn cyfarfod blaenorol gyda’r brifysgol, cawson nhw hi’n anodd credu bod myfyrwyr Iddewig yn cael amser anodd ar y campws. Ydych chi’n deall nawr?,” meddai.
Ymchwiliad
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymateb trwy ddweud eu bod “yn bryderus” ynghylch datganiad y Gymdeithas Iddewig.
“Fel y nodwyd eisoes, mae Dirprwy Is-ganghellor y brifysgol eisoes wedi ysgrifennu at bob myfyriwr i ailadrodd yr angen absoliwt i ymddwyn ag urddas a pharch tuag at bawb, a nodi ein hagwedd dim goddefgarwch at aflonyddu a gwahaniaethu o bob math ar y campws,” meddai llefarydd.
“Mae hefyd yn nodi’r cymorth sydd ar gael o ran diogelwch a chymorth i fyfyrwyr.”
Ychwanega fod y brifysgol eisoes yn cynnal adolygiad o ymddygiad myfyrwyr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a digwyddiadau eraill, fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
“Mae’r brifysgol wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â’n Cymdeithas Iddewig ac, yn dilyn eu datganiad, byddwn yn estyn allan eto ac yn ystyried pa gymorth ychwanegol y gellir ei roi ar waith yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn,” meddai.
‘Nid yw rhyddid i lefaru yn absoliwt’
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd wedi cyhoeddi datganiad yn dilyn y cyfarfod, lle’r oedd dros 1,000 o fyfyrwyr yn bresennol i drafod amryw o bynciau cyfoes.
Dywed yr Undeb eu bod nhw wedi cymryd camau cyn y cyfarfod i warchod y rhyddid i lefaru ac i sicrhau bod myfyrwyr yn deall bod disgwyl parch ganddyn nhw.
“Fodd bynnag, fel cafodd y myfyrwyr wybod, nid yw rhyddid i lefaru yn absoliwt ac rydym wedi ymrwymo i weithredu yn erbyn unrhyw ymddygiadau sy’n arwain at gasineb neu wahaniaethu, boed yn ein cyfarfodydd democrataidd neu yng ngweithgarwch ehangach yr Undeb Myfyrwyr,” meddai.
“Yn ystod y cyfarfod, rhoddodd rhai myfyrwyr areithiau emosiynol yn ystod rhai o’r dadleuon ar gynnig.
“Rydym yn cydnabod cryfder y teimladau a’r sensitifrwydd sy’n gysylltiedig â rhai o’r pynciau gafodd eu trafod, ac aeth cadeirydd y cyfarfod ati i sicrhau bod yr holl siaradwyr yn cael eu clywed, yn ogystal ag annog y dorf i fod yn barchus a gwrando ar siaradwyr.”
Dywed nad oedd y digwyddiad gyda’r Gymdeithas Iddewig yn adlewyrchu natur y noson gyfan.
“Bydd Undeb y Myfyrwyr yn parhau i weithio i sicrhau bod cymuned y myfyrwyr yn lle diogel a chroesawgar i bawb a dylai unrhyw fyfyriwr yr effeithir arno gan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol estyn allan i dîm Cyngor Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr,” meddai.