Mae pobol ifanc rhwng 16 a 18 oed yn gweld gwerth y Gymraeg ar gyfer eu gyrfaoedd, ac yn croesawu’r cyfle i astudio drwy gyfrwng yr iaith, yn ôl ymchwil gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae’r rhan fwyaf o’r rheiny gafodd eu holi mewn ysgolion a cholegau addysg bellach yn dweud iddyn nhw gael profiad ’da’ neu ‘dda iawn’ wrth dderbyn addysg Gymraeg neu ddwyieithog.

Cafodd dros 1,000 o bobol ifanc eu holi ar gyfer yr ymchwil, oedd â’r nod o gasglu barn a phrofiadau dysgwyr ôl-16 mewn addysg Gymraeg neu ddwyieithog mewn ysgolion neu golegau, gan gynnwys eu rhesymau dros ddewis addysg Gymraeg.

Ond roedd y canlyniadau’n amrywio tipyn yn ôl lleoliad yr addysg, gyda gwahaniaethau sylweddol rhwng profiadau disgyblion ysgol a myfyrwyr coleg, o ran eu canfyddiad o’u gallu yn y Gymraeg, cyfrwng iaith eu haddysg a’u hagwedd at bwysigrwydd yr iaith.

Dywed y Comisiynydd y bydd yn rhaid ystyried canlyniadau’r arolwg yn ofalus wrth lunio a datblygu polisïau’r dyfodol.

“Mae’r ymchwil hwn gyda nifer sylweddol o ddysgwyr ifanc yn ymateb yn dangos yn glir bwysigrwydd y Gymraeg i ddysgwyr yng Nghymru,” meddai Efa Gruffudd Jones.

“Mae’r mwyafrif helaeth yn falch o fod yn gallu siarad yr iaith ac yn nodi bod cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig wrth ddewis man astudio, yn ogystal â chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd yr ysgol neu’r coleg a gyda’u ffrindiau.

“Mae angen serch hynny roi ystyriaeth bellach i resymau dysgwyr dros beidio â dewis astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n bryderus nodi’r gwahaniaeth rhwng argaeledd cyrsiau drwy’r Gymraeg yn ein colegau o’i gymharu â’n hysgolion.

“Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud ymdrechion sylweddoI i fynd i’r afael â gwella darpariaeth Gymraeg yn y colegau addysg bellach, ond mae hefyd angen atgyfnerthu’r ddarpariaeth allweddol sy’n bodoli mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.”

Canlyniadau’r ymchwil

Mae’r ymchwil yn dangos bod dros 90% o’r rhai gafodd eu holi yn falch o allu siarad Cymraeg, a thros 80% yn teimlo y bydd y Gymraeg o gymorth iddyn nhw wrth sicrhau swyddi yn y dyfodol.

Ond ychydig o dan 60% sy’n teimlo’n hyderus y byddan nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfaoedd.

Un o’r ymatebwyr oedd Maddie Pritchard, myfyriwr chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Ystalyfera sydd hefyd yn Faer Ieuenctid yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot.

“Fel Maer Ieuenctid, fe wnes i osod y Gymraeg fel un o fy mlaenoriaethau gan mod i’n teimlo fod yr iaith yn bwysig i ni fel pobol ifanc, o ran ein bywydau bob dydd, yn yr ysgol ac yn ein cymunedau,” meddai.

“Rwy’n falch o weld yr agweddau cadarnhaol sydd yn cael eu hamlygu yn yr ymchwil hwn gan ei fod yn adlewyrchu yr hyn rwyf i yn ei brofi o ddydd i ddydd.

“Ond mae angen mynd i’r afael gyda’r rhesymau pam fod rhai yn dewis peidio astudio drwy’r Gymraeg ac ymateb yn ymarferol i hynny.

“Mae’n braf fod ein llais ni fel dysgwyr yn cael ei glywed a’i barchu ac rwy’n gobeithio y cawn gyfle i gyfrannu at unrhyw waith cyffelyb yn y dyfodol.”

Mae’r ymchwil yn nodi y bydd angen ystyried yn ofalus sut mae cefnogi ac adeiladu ar y ddarpariaeth sydd mewn lle ar hyn o bryd ac i roi ystyriaeth genedlaethol ynghylch beth fydd rôl ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wrth gynllunio addysg ôl-orfodol y dyfodol.

Dylai hyn gynnwys cydweithio ar lefel ranbarthol rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach i sicrhau fod darpariaeth ddigonol ar gael er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr ôl-16 mewn addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.