Mae rhieni’n poeni y bydd rhaid iddyn nhw roi’r gorau i’w gwaith, wrth i feithrinfa ym Mlaenau Ffestiniog gyhoeddi y byddan nhw’n cau.

Yn ôl Barnardo’s, sy’n rhedeg meithrinfa Caban Bach, mae costau cynyddol ac incwm is yn golygu nad ydy hi’n bosib iddyn nhw barhau i gynnig gofal plant.

Bydd naw o staff yn cael eu heffeithio pan fydd y feithrinfa yn cau ddiwedd mis Mawrth, meddai Barnardo’s wrth golwg360.

“Does yna ddim llawer o opsiynau yma efo gofal chwaith felly mae hynna’n cyfyngu arna i’n gallu mynd i’r gwaith, felly dw i’n gorfod, essentially, rhoi fy ngwaith fyny,” meddai Meinir Roberts, sy’n mynd â’i merch Alys i Caban Bach bob prynhawn yn ystod yr wythnos.

Mae Alys yn cael mynd i Caban Bach ar ôl treulio’r bore yn yr ysgol fel rhan o gynllun 30 awr o ofal am ddim, ac mae’r ddwy feithrinfa arall ym Mlaenau Ffestiniog sy’n cynnal y ddarpariaeth yn llawn, meddai ei mam.

“Dw i’n gweld o’n sioc eu bod nhw’n ei gau o, fedra i ddim deall pam eu bod nhw wedi penderfynu ei gau o rŵan.

“Dydy o ddim digon clir, maen nhw’n sôn am gostau byw, a dw i’n deall, ond mae fy nghostau byw i a phobol eraill yn mynd i godi rŵan, oherwydd mae fy mhlant i’n mynd i fod adre fwy, dw i’n mynd i fod adre fwy, a dw i ddim yn mynd i fedru gweithio.”

Meinir a’r teulu

‘Gwahaniaeth mawr’

Dywed Manon Thomas, sy’n mynd â’i mab Guto, sy’n ddyflwydd a hanner, i’r feithrinfa yn ystod gwyliau’r ysgol, ei bod hi’n “gutted” o’i gweld yn cau.

“Dw i’n defnyddio fo yng nghanol yr haf a hanner tymor, dydy o ddim fel bod rhieni’n gallu stopio gweithio,” meddai Gweithiwr Cymorth cwmni Seren.

“Dw i wedi gweld gwahaniaeth mawr yn Guto wrth iddo fo fynd i’r llefydd yma,” meddai wedyn, gan ychwanegu ei fod yn mynd i feithrinfa arall yn ystod tymor yr ysgol.”

Manon a Guto

‘Rhestrau aros am fisoedd’

Mae dau o blant Sioned Lewis – Cynan Siôn sy’n bump oed ac Elan Grug, sy’n 22 mis – wedi bod yn Caban Bach yn eu tro.

“Mae’r newyddion yn sioc fawr i ni, doedden ni ddim yn disgwyl hyn gwbl,” meddai’r Rheolwr Busnes yng Nghwmni Seren.

“Mae’r gŵr a fi’n gweithio llawn amser, swyddi reit heriol ar brydiau a gorfod gweithio oriau tu allan i 9-5.

“Dydy hi ddim yn opsiwn i’r un ohonom ni gwtogi ein horiau na newid patrwm gwaith.

“Yr unig opsiwn fysa chwilio am leoliad arall iddi, sydd ddim yn hawdd gan fod rhestrau aros am fisoedd yn y rhan fwyaf o leoliadau.”

Sioned Lewis gyda’i theulu

‘Be mae rhywun fod i wneud’

Ychwanega rhiant arall, nad yw’n dymuno cael ei henwi, ei bod hi’n “gwbl ddibynnol” ar Caban Bach.

“Dw i ddim wir eisiau ffeindio rhywle arall i’r mab achos mae o mor agos a chyfleus, mae o wrth ei fodd yno ac mae’r staff yn grêt,” meddai.

“Os dw i ddim yn gallu ffeindio’r unlle iddo fo, dw i ddim yn gwybod be’ fedra i wneud efo fy ngwaith.

“Maen nhw’n trio cael rhywun yn ôl i weithio ar ôl bod i ffwrdd am dair blynedd ar ôl cael y mab, wedyn maen nhw’n cymryd y gofal plant – mae o’n bechod fysa yna help, be’ mae rhywun fod i wneud?”

‘Penderfyniad anodd iawn’

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Barnardo’s fod cau Caban Bach yn “benderfyniad anodd iawn”.

“Mae Barnardo’s Cymru’n eithriadol o falch o ansawdd y gofal plant sydd wedi’i ddarparu gan ein staff ymroddedig yng nghymuned Blaenau Ffestiniog dros y blynyddoedd, ac yn gwerthfawrogi’r holl negeseuon o gefnogaeth gan rieni,” meddai Sarah Crawley, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru a de-orllewin Lloegr.

“Roedd yn benderfyniad anodd iawn i ni ddod â’r ddarpariaeth i ben, ond rydyn ni’n gobeithio parhau i gynnig gofal plant nes diwedd mis Mawrth flwyddyn nesaf er mwyn rhoi cyfle i rieni ddod o hyd i opsiynau eraill.

“Mae Barnardo’s wedi sybsideddio’r gwasanaeth yn drwm dros y blynyddoedd diwethaf ond mae cynnydd sylweddol mewn costau, ynghyd â gostyngiad mewn incwm gan fod llai o blant yn mynychu, yn golygu nad ydy hi’n bosib parhau.

“Hoffwn ddiolch i’n staff bendigedig a dweud faint ydyn ni wedi mwynhau gweithio gyda chymaint o deuluoedd dros y blynyddoedd.”

Bydd gwaith y Tîm Cefnogi Teulu ym Mlaenau Ffestiniog yn parhau.

Mae cynrychiolwyr gwleidyddol yr ardal – yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts, yr Aelod o’r Senedd Mabon ap Gwynfor, a’r Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn – wedi galw am gyfarfod brys gyda Barnardo’s, ac mae Barnardo’s yn nodi eu bod nhw’n gweithio gyda Chyngor Gwynedd i geisio canfod ateb ar gyfer gwasanaeth gofal plant yn y dyfodol.