Mae cannoedd o gynorthwywyr addysgu yn dweud eu bod nhw heb gael digon o hyfforddiant i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, yn ôl undeb UNSAIN.
Mewn arolwg diweddar o gynorthwywyr addysgu, roedd 66% o’r rhai oedd wedi cymryd rhan yn dweud nad oedden nhw wedi cael digon o hyfforddiant i allu cyflwyno’r cwricwlwm.
Dywedodd eraill eu bod nhw wedi cael cais i lanhau ystafelloedd dosbarth a llungopïo ar ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd (diwrnodau HMS), sydd i fod i gael eu defnyddio ar gyfer datblygiad staff.
Dywedodd rhai eu bod nhw hyd yn oed wedi cael cais i wneud gwaith cynnal a chadw yn yr ysgol yn ddi-dâl yn ystod dyddiau oedd i fod ar gyfer sesiynau hyfforddi.
‘Cwbl annerbyniol’
Dywedodd pennaeth ysgolion UNSAIN Cymru, Rosie Lewis: “Mae cynorthwywyr addysgu yn chwarae rhan hollbwysig mewn ysgolion ac mae’n rhaid iddyn nhw gael yr hyfforddiant angenrheidiol.
“Mae hyn yn hanfodol i gefnogi disgyblion a rhoi cyfle i staff ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain.
“Mae’n gwbl annerbyniol bod gofyn iddyn nhw ddod i mewn, weithiau heb gael eu talu, i gyflawni tasgau sydd ddim yn gysylltiedig â’u swyddi.
“Bydd UNSAIN yn rhannu canlyniadau ei arolwg gyda Llywodraeth Cymru ac yn galw am weithredu ar unwaith i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gynorthwywyr addysgu.”
Dywedodd cynorthwyydd addysgu Ceredigion a chynullydd ysgolion UNSAIN Rebecca Ring: “Mae tueddiad i anwybyddu ein datblygiad proffesiynol ac mae angen i hyn wella.
“Os yw Cwricwlwm i Gymru am fod yn llwyddiannus, yna rhaid mynd i’r afael â rôl cynorthwywyr addysgu a’n hanghenion dysgu.”
Roedd UNSAIN Cymru wedi holi 409 o gynorthwywyr addysgu o bob rhan o Gymru ar gyfer ei arolwg rhwng mis Mai a Medi 2023.