Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r gŵr busnes o Gaerdydd, yr Arglwydd David Rowe-Beddoe, a fu farw yn 85 oed.

Roedd yn gadeirydd cyntaf ar Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, ac yn gyn-gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru, yn ogystal â chadeirydd Maes Awyr Caerdydd.

Cafodd ei farwolaeth ei gyhoeddi yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Roedd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yn gadeirydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru am gyfnod o 10 mlynedd, o 2002 hyd ei ymddeoliad yn 2012.

Mae’r Archesgob Andrew John wedi talu teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel dyn o dalent ac egni enfawr oedd â ffydd Gristnogol ddofn.

Dywedodd: “Gwasanaethodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yr Eglwys yng Nghymru yn glodwiw, gan roi ei amser a’i gefnogaeth yn ddiflino. Ymysg pethau eraill, arweiniodd adolygiad pwysig a roddodd ein cyllid ar seiliau cadarn.

“Roedd yn ddyn o dalent ac egni enfawr oedd yn cael ei gymell gan ei ffydd bersonol ddofn ei hun. Diolchwn am ei fywyd ac am ei ymroddiad a’i gefnogaeth i’r Eglwys ac anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at ei deulu. Bydded i David orffwys mewn hedd a chodi mewn gogoniant.”

‘Cefnogwr brwd’

Mewn teyrnged arall, dywedodd Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd mewn datganiad:

“Mae’n ddrwg calon gennym glywed y newyddion am farwolaeth ein Llywydd Oes  a’n cefnogwr brwd, Yr Arglwydd David Rowe-Beddoe. Yn ei waith fel Cadeirydd, chwaraeodd ran hanfodol yn sefydlu Canolfan Mileniwm Cymru, a bu ei ymroddiad i danio’r dychymyg ledled Cymru yn allweddol i lwyddiant CMC dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy.

“Byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr, a byddwn yn diolch am ei gyfraniad i greadigrwydd yng Nghymru yn ystod dathliadau ein pen-blwydd yn 20 oed yn 2024. Bu’n angerddol o blaid y theatr a cherddoriaeth, a bydd ei waddol dwfn yn cael effaith sylweddol ar y celfyddydau yng Nghymru am flynyddoedd maith.”

‘Angerdd dros y celfyddydau’

Cafodd David Rowe-Beddoe ei fagu yng Nghaerdydd ac astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Yn ystod ei yrfa bu’n gweithio i nifer o gwmnïau gan gynnwys Revlon a Morgan Stanley.

Roedd ganddo ddiddordeb brwd yn y celfyddydau ac un o’i ffrindiau oedd yr actor Richard Burton ac Elizabeth Taylor. Roedd yn gadeirydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am bedair blynedd cyn dod yn llywydd am 15 mlynedd hyd at 2019.

Dywedodd Helena Gaunt, Prifathro’r Coleg: “Roedd yr Arglwydd Rowe-Beddoe yn gefnogwr arbennig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru dros ddegawdau lawer. Mae ei gefnogaeth i genedlaethau o fyfyrwyr wedi bod yn aruthrol. Mae ei angerdd dros y celfyddydau, ei arweiniad doeth, ei her a’i egni diddiwedd wedi bod yn allweddol i ddatblygiad y Coleg. Mae ei uchelgais parhaus dros, a’i falchder yn ein myfyrwyr wastad wedi bod yn ysbrydoledig. Yn syml iawn, roedd yn caru’r Coleg ac roedd y Coleg yn ei garu yntau. Byddwn yn ddiolchgar iddo am byth am ei weledigaeth, ei wasanaeth hir a’i ymrwymiad di-ffael i’n conservatoire cenedlaethol. Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr iawn ac ry’n ni’n anfon ein cydymdeimlad didwyll i’w deulu.”