Mae mudiad sy’n dod â mentrau cymunedol Gwynedd ynghyd yn gobeithio bod yn “gerbyd i sicrhau bod cymunedau yn cael mwy o rym”.

Cafodd Cymunedoli Cyf – sydd â 33 o fentrau cymunedol yn aelodau – ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, ac mae Haydn Hughes wedi cael ei benodi’n Brif Swyddog.

Mae cymunedoli yn fodel economaidd sy’n golygu bod y gymuned yn dylanwadu ar sawl elfen o’r gymuned, a bod y gwerth yn aros yn lleol.

“Yn y bôn, be’ ydy o ydy ein cymunedau ni’n perchnogi a rheoli adnoddau, a’r llafur sy’n mynd efo hynny, er budd y cymunedau,” meddai Haydn Jones, sydd ar secondiad blwyddyn o fudiad cymunedol Antur Waunfawr, wrth golwg360.

‘Cynaliadwy ac yn ffynnu’

Mae Cymunedoli Cyf wedi casglu data ar gyfer 23 o’u haelodau, ac wedi canfod bod eu trosiant yn werth £13.5m at ei gilydd.

Rhyngddyn nhw, maen nhw’n cyflogi 239 o staff llawn amser, a 215 o staff rhan amser, ac yn rhoi cyfleodd i 536 o wirfoddolwyr.

Ymhlith y mentrau hynny mae’r Orsaf ym Mhenygroes, Galeri Caernarfon, Partneriaeth Ogwen a Chwmni Bro Ffestiniog.

“Pan ti’n adio gwerth asedau, mae o’n £43.2m. Pan ti’n dod â bob dim at ei gilydd, mae o’n gryf iawn, mae’r dylanwad yn treiddio trwy’n cymunedau ni,” meddai Haydn Jones.

“Be’ rydyn ni’n obeithio ei wneud ydy effeithio ar agweddau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, addysgol.

“Mae yna gyfle yn fan yma i ddangos agweddau mentergarwch, rydyn ni i gyd yn rhannu’r weledigaeth, sef ein bod ni eisiau i’n cymunedau ni fod yn gynaliadwy ac yn ffynnu.

“Mae o i gyd yn mynd yn ôl at gydweithio a sicrhau bod pobol yn gwybod mwy am fentrau cymunedol.”

Y gobaith ydy cydweithio a dylanwadu ar Lywodraeth Leol, eglura Haydn Jones, gan ddweud eu bod nhw eisoes yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd.

“Be’ rydyn ni eisiau ydy stopio’r echdynnu o’r cyfoeth a’r arian yma, fel ei fod o’n aros yn ein cymunedau.”

‘Cryfhau’r Gymru newydd’

Mae Cymunedoli Cyf yn awyddus i roi unrhyw ddarpar fudiadau cymunedol, neu grwpiau sydd am brynu asedau – fel tafarndai neu fwytai neu farinas – i’r gymuned, ar ben ffordd hefyd.

“Ein bod ni hefyd yn Cymunedoli Cyf yn toolkit, bod cymunedau’n gallu dod atom ni ac ein bod ni’n gallu rhoi nhw ar ben ffordd, rhoi cymorth os ydyn nhw eisiau sefydlu menter gymunedol,” meddai.

“Mae yna sgôp arall, fysa ni’n licio gweld y model yma o gymunedoli yn gallu ehangu drwy Gymru gyfan,” ychwanega Haydn Jones, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus i edrych mwy ar ardaloedd fel Tywyn, Aberdyfi a Dinas Mawddwy ym Meirionnydd.

“Rydyn ni’n gweld o’n fodel fysa’n gallu cryfhau’r Gymru newydd rydyn ni’n edrych i’w ffurfio.

“Gobeithio ein bod ni’n dod yn gerbyd i’n cymunedau ni gael fwy o rym, mwy o lais, mwy o gydweithio er budd y gymuned, ac effeithio ar yr economi leol.

“Mae o’n [gam] newydd yn yr ystyr ein bod ni’n ffurfioli, mae hanes mentrau cymunedol yn mynd yn ôl 40 mlynedd a mwy, ac wedi esblygu dros y blynyddoedd i gyfarch lot o elfennau o fewn cymdeithas – twristiaeth gymunedol, ynni cymunedol, trafnidiaeth gymunedol.

“Y nod ydy bod Cymru gyfan yn gweld y model sy’n digwydd yng Ngwynedd, gweld be’ ydy potensial y model yma’n cael ei efelychu drwy Gymru gyfan ond cychwyn drwy weld sut mae’n cael ei ffurfioli yng Ngwynedd.”

Cymunedoli

Selwyn Williams

Selwyn Williams o Gwmni Bro Ffestiniog sy’n cynnig syniadau ar gyfer trafod a chreu model o ddatblygu cymunedol dros Gymru