Bydd 25,000 o ddisgyblion mewn 250 o ysgolion yn 32 sir Iwerddon yn siarad Gwyddeleg yn unig am 24 awr fel rhan o her genedlaethol Conradh na Gaeilge heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 14).
Nod yr her yw annog pobol ifanc i siarad eu mamiaith yn unig ym mhob agwedd ar eu bywydau am ddiwrnod cyfan.
Bydd gofyn iddyn nhw ei siarad yn yr ysgol, gyda’u hathrawon, ar yr aelwyd, yn y siopau ac mewn busnesau lleol, gyda ffrindiau ac mewn clybiau chwaraeon, ac ati.
Yn ôl Paula Melvin, Uachtarán Chonradh na Gaeilge, roedd her debyg y llynedd yn llwyddiant, gyda “chyfeillgarwch wedi’i greu, cysylltiadau wedi’u gwneud rhwng grwpiau, a chafodd y cyhoedd gyfle i ddefnyddio’r iaith Wyddeleg mewn ffordd unigryw a chreadigol”.
Bydd pob ysgol gynradd ac uwchradd – Saesneg, Gwyddeleg ac yn y Gaeltacht – yn cymryd rhan yn yr her eleni, a phob disgybl sy’n cymryd rhan yn derbyn tystysgrif.
Mae modd i unrhyw un yn y byd ymuno yn yr her hefyd, gan ddefnyddio’r hashnod #Gaeilge24 ar y cyfryngau cymdeithasol.
Her sy’n “mynd o nerth i nerth”
Yn ôl Aodhán Ó Deá, Cyfarwyddwr Datblygu Conradh na Gaeilge, mae her Gaeilge24 yn mynd o nerth i nerth ar ôl unarddeg o flynyddoedd.
“Rydyn ni wedi anfon miloedd o becynnau cymorth allan i ysgolion yn y gogledd a’r de dros y dyddiau diwethaf, ac mae Conradh na Gaeilge wedi cyffroi’n fawr iawn o glywed yr iaith Wyddeleg yn cael ei defnyddio gan fwy na 25,000 o fyfyrwyr dros yr ynys!”
Un sy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr her yw Siobhán Fitzpatrick, athrawes yng Ngholeg Terenure sy’n defnyddio’r enw @GaeilgeVibes ar TikTok.
“Dw i a fy myfyrwyr wedi cyffroi’n fawr iawn o gael cymryd rhan yn #Gaeilge24 eleni,” meddai.
“Mae’r diwrnod yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio a gwella’u Gwyddeleg mewn ffordd sy’n eu helpu nhw i ddod â’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth am y diwrnod.
“Mae’r myfyrwyr wedi addo gwneud pob ymdrech i ddefnyddio Gwyddeleg yn unig am y 24 awr gyfan, a dw i’n edrych ymlaen at weld sut maen nhw’n llwyddo yn eu her!”