Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddulliau posib o ailgynllunio system y dreth gyngor wedi mynd yn fyw heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 14).

Mae’r Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru’n ymrwymo i ddiwygio’r system dreth gyngor bresennol.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn barn pobol am sut i wneud y dreth gyngor yn decach, gan gynnwys ychwanegu bandiau treth gyngor newydd a newid y cyfraddau treth.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn pa mor gyflym fyddai pobol yn hoffi gweld newid yn digwydd.

Yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn pobol am ddulliau posib o ailgynllunio’r system i’w gwneud yn decach.

Mae’r dreth gyngor yn helpu i ariannu’r gwasanaethau hanfodol bob dydd sy’n cael eu darparu gan gynghorau lleol – o ysgolion i lyfrgelloedd lleol, i ofal cymdeithasol a glanhau strydoedd.

Wrth wneud y system yn decach, un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru, medden nhw, yw sicrhau nad yw’r newidiadau’n cynyddu cyfanswm y dreth gyngor sy’n cael ei chodi.

Yn ôl y Llywodraeth, dylai unrhyw ailgynllunio godi’r un swm o dreth gyngor ledled Cymru ag sy’n cael ei godi ar hyn o bryd.

Dywed y Llywodraeth fod y system gyfredol ugain mlynedd ar ei hôl hi, ac yn annheg, gyda phobol sy’n byw mewn cartrefi yn y bandiau treth gyngor isaf yn talu swm cymharol uwch o dreth gyngor mewn perthynas â gwerth eu cartrefi o’i gymharu â phobol sy’n byw mewn cartrefi gwerth uwch.

Ymhlith y dulliau sy’n cael eu hystyried mae ychwanegu bandiau newydd ar gyfer y dreth gyngor, newid y cyfraddau treth sy’n cael eu codi ar gyfer pob band, ac adolygu gostyngiadau.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn i bobol pa mor gyflym hoffen nhw weld y newidiadau’n cael eu cyflwyno – ond does dim modd cyflwyno unrhyw newidiadau cyn Ebrill 1, 2025 er bod modd eu gohirio hyd at dymor nesa’r Senedd.

Ailbrisiadau

Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn paratoi i ailbrisio pob un o’r 1.5m o gartrefi yng Nghymru, i sicrhau bod prisiadau’n gyfredol ac yn unol â gwerthoedd eiddo ar hyn o bryd.

O dan gynlluniau Llywodraeth Cymru, byddai ailbrisiadau’n cael eu cynnal bob pum mlynedd i sicrhau bod pobol yn talu’r swm cywir o dreth gyngor mewn perthynas â gwerth eu heiddo.

Mae hyn hefyd yn cynnig cyfle i edrych ar y bandiau a’r cyfraddau treth bob pum mlynedd, fel bod modd parhau i wneud y dreth gyngor yn decach.

Er bod prisiau eiddo wedi cynyddu’n gyffredinol, dydy hynny ddim yn golygu y bydd biliau treth gyngor yn codi’n awtomatig, medd y Llywodraeth.

Byddai biliau llawer o bobol yn aros yr un fath ar ôl y diwygiadau a byddai rhai yn gostwng.

Tri dull y Llywodraeth yw:

  • Diwygio ar raddfa fach – ailbrisio eiddo er mwyn gwirio bod prisiadau yn gyfredol ond cadw’r naw band a’r cyfraddau treth sydd gennym ni ar hyn o bryd. Byddai hyn yn diweddaru’r system ac yn gam bach i gyfeiriad tegwch.
  • Diwygio cymedrol – ailbrisio ynghyd â diwygiadau pellach i’r cyfraddau treth a godir ar gyfer pob band, i ledaenu’r dreth gyngor yn decach. Mae hyn yn golygu y byddai biliau ar gyfer aelwydydd mewn eiddo band is yn gostwng, a byddai biliau ar gyfer y rhai mewn eiddo yn y bandiau uchaf yn codi. Byddai hyn yn mynd i’r afael â natur hen ffasiwn y system gyfredol a hefyd ei natur annheg ac anraddoledig.
  • Diwygio estynedig – ailbrisio ynghyd â diwygiadau pellach, gan gynnwys bandiau treth ychwanegol a newidiadau i’r cyfraddau treth. Byddai’r dull hwn yn gweld nifer y bandiau yn cynyddu o naw i ddeuddeg. Byddai un band yn cael ei ychwanegu ar y gwaelod ar gyfer yr eiddo â’r gwerth isaf yng Nghymru, a byddai dau fand arall yn cael eu hychwanegu ar y brig, ar gyfer yr eiddo drutaf sydd werth dros £1.2 miliwn. Y canlyniad fyddai cam pendant i gyfeiriad tegwch.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol heddiw, sy’n rhoi enghreifftiau darluniadol o sut y gallai’r tri dull edrych mewn gwahanol rannau o Gymru, ac ar gyfer gwahanol fathau o aelwydydd.

Ar hyn o bryd, mae bron i hanner aelwydydd Cymru yn cael gostyngiad ar eu bil treth gyngor, drwy’r disgowntiau a’r eithriadau niferus, a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cenedlaethol.

Fydd hyn ddim yn newid yn sgil y gwaith hwn, yn ôl y Llywodraeth.

‘Sicrhau bod Cymru’n wlad fwy cyfartal’

“Rydyn ni’n gofyn i bobol ein helpu ni i benderfynu ynghylch dyfodol y dreth gyngor yng Nghymru,” meddai Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru.

“Mae gwneud y dreth gyngor yn decach yn un o’r camau y gall Llywodraeth Cymru ei gymryd tuag at sicrhau bod Cymru’n wlad fwy cyfartal.

“Bydd y manteision i’w teimlo ym mhocedi llawer o aelwydydd.

“Dyw hyn ddim yn fater o godi mwy o arian drwy drethi a dyw’r newidiadau ddim yn mynd i ddigwydd dros nos.

“Rydyn ni’n gweld hyn fel proses raddol a dyna pam rydyn ni hefyd yn gofyn am farn ar ba mor gyflym y dylen ni gyflwyno’r newidiadau.”

‘Y dreth gyngor wedi dyddio’

Yn ôl Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithio, mae’r system bresennol “wedi dyddio” ac mae’n “hen bryd ei diwygio”.

“Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn pobol ledled Cymru ar sut allai’r dreth gyngor edrych yn y dyfodol a sut allwn ni ei gwneud yn decach,” meddai.

“Er bod angen newid, bydd yn cymryd amser sy’n golygu na fydd biliau yn newid ar unwaith.

“Rydyn ni’n ymgynghori nid yn unig ar y newidiadau sydd eu hangen, ond hefyd ar ba bryd y gallai’r newidiadau hyn ddod i rym.”